Croesawodd Uchelgais Gogledd Cymru y newyddion am Barth Buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint, gan estyn llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi’r cynllun.

Mae'r Parth Buddsoddi, sydd werth hyd at £160 miliwn, wedi dod gam yn nes ar ôl i Lywodraeth y DU addo ei gefnogi – gyda’r cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref y Canghellor ddydd Mercher (22.11.23).

Heddiw (23.11.23) mae’r Canghellor yn ymweld â Gogledd-ddwyrain Cymru, sy’n gartref i ddwy o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam, a sector Creadigol a Digidol ffyniannus a fydd yn derbyn y buddsoddiad ar gyfer arloesi, seilwaith a sgiliau a phrosiectau hyfforddi. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cynnwys dynodi Caerdydd a Chasnewydd yn Barth Buddsoddi yng Nghymru. Bydd y ddwy ardal yn ymuno â rhanbarthau Lloegr sef Dinas Lerpwl, Manceinion Fwyaf, De Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Teesside, ynghyd â dau ranbarth yn yr Alban, sef Dinas Glasgow a Gogledd-ddwyrain yr Alban.  ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

Yn gynharach y mis hwn fe ddatgelodd Llywodraeth Cymru ei bod hithau hefyd yn cefnogi’r syniad a allai olygu miloedd o swyddi newydd a hwb o £1.7 biliwn i economi’r rhanbarth. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

Mae Joanna Swash, Prif Weithredwr Grŵp y darparwr cyfathrebu allanol Moneypenny o Wrecsam wedi arwain consortiwm sy’n cefnogi’r Parth Buddsoddi, ynghyd â JCB, Airbus, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Net World Sports, Theatr Clwyd, cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint, Prifysgol Wrecsam ac AMRC Cymru. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

quotation graphic

Meddai Joanna: “Mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol iawn nid yn unig i Ogledd-ddwyrain Cymru ond i Gymru gyfan oherwydd mae’n cadarnhau ein lle fel arweinydd ym maes gweithgynhyrchu uwch a’r sector creadigol a digidol, lleoliad y mae busnesau sy’n adnabyddus yn rhyngwladol yn awyddus i weithredu ohono. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Yn y ddau sector hyn mae Gogledd-ddwyrain Cymru yn gartref i rai o’r enwau mwyaf yn eu meysydd gan gynnwys Airbus, Toyota, JCB, Eren, Theatr Clwyd, Moneypenny, Hoya Lens, Sharp, Net World Sports, Kronospan, Hydro Wrexham ac Ifor Williams Trailers. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Mae hwn yn lle gwych i gynnal busnes a bydd statws Parth Buddsoddi yn annog twf a buddsoddiad pellach gyda hyd at £160 miliwn o gefnogaeth i’r Parth yn helpu i amddiffyn ein degau o filoedd o swyddi medrus presennol a chreu miloedd yn rhagor. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Bydd y rhain yn swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda ac sy’n creu ystod o opsiynau gyrfa rhagorol i’n pobl ifanc. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Bydd yn arwain at well seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth a mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau a hyfforddiant ac yn gwneud Gogledd-ddwyrain Cymru yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd a thechnoleg sydd mor bwysig ar gyfer y dyfodol, nid yn unig ar gyfer gweithgynhyrchu ond yn y sectorau creadigol a digidol hefyd.”

quotation graphic
quotation graphic

Mae Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint wedi chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch a dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Ian Roberts: “Mae hwn yn benderfyniad pwysig fydd yn dod â buddsoddiad o hyd at £160 miliwn i Sir y Fflint a Wrecsam dros y deng mlynedd nesaf. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Mae’n deyrnged i’r ffordd y mae ein busnesau a’n harweinwyr gwleidyddol ar lefel leol a chenedlaethol wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno achos cwbl gadarn ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru fel Parth Buddsoddi. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Bydd y buddsoddiad enfawr hwn yn helpu i gryfhau ein busnesau allweddol, llawer ohonynt yn enwau cyfarwydd iawn, ac yn dod â chwmnïau newydd i mewn gyda phopeth y mae hynny’n ei olygu i swyddi a ffyniant.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard: “Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Ogledd-ddwyrain Cymru ac yn tystio i’r ffordd y mae’r rhanbarth wedi dod at ei gilydd i gyflwyno’r achos dros y statws hanfodol hwn. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru ac mae’n wobr haeddiannol iawn i ardal sy’n gartref i gymaint o entrepreneuriaid dawnus a chwmnïau arloesol sydd wedi cynorthwyo i yrru’r ymgyrch hon yn ei blaen. ‌​‌‌​​​‌‍‌​‌​‌‌‌​‍‌​‌​‌‌​​‍‌​​‌‌‌‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​​‌‌​‍‌​‌‌‌‌‌​‍‌​​​‌‌​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​‌​‌​‌‌‍‌​​‌​‌‌‌‍‌​​‌​‌‌​‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌​​‌‍‌​​‌‌​‌​‍‌​​​‌‌​​

“Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol wych gan ein Haelodau Seneddol a’n Haelodau Senedd Cymru ynghyd â Chyngor Busnes Gogledd Cymru a chymaint o fusnesau a sefydliadau blaenllaw. Gyda’n gilydd, rydym wedi cyflwyno achos cryf a llwyddiannus iawn dros y Parth buddsoddi hwn yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.”

quotation graphic