Rydym eisiau clywed eich barn am ein prosiect hwb hydrogen gwyrdd arfaethedig.
Bydd hydrogen yn chwarae rhan allweddol wrth ddatgarboneiddio'r rhanbarth. Chaiff ei ddefnyddio i leihau allyriadau carbon ar draws ystod o feysydd, fel trafnidiaeth, gweithgynhyrchu a gwresogi tai.
Fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, nod Uchelgais Gogledd Cymru yw datblygu canolfan hydrogen gwyrdd, a fydd yn help i sbarduno twf yr economi hydrogen yng Ngogledd Cymru.
Bydd yr ymatebion i Ymgysylltu Marchnad Buan yn ein helpu i ddatblygu'r prosiect. Caiff yr adborth ei ddefnyddio i ddatblygu'r prosiect a chynllunio proses gystadleuol ar gyfer cynnwys partner.
Rydym am glywed gan unrhyw sefydliad sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni ar y prosiect hwn. I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi eich barn, ewch yma.
Other news
-
26MaiGrŵp Clwstwr Sgiliau Digidol Gogledd Cymru yn penodi Is-gadeirydd newydd
-
31MawSwyddogion newydd i roi hwb i'r sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru
Croesawu dau aelod newydd o staff i ymuno â’r Tîm Ynni Carbon Isel , gyda'r obaith bydd y ddwy rôl yn rhoi hwb i’r sector yng Ngogledd Cymru. Symudodd Danial Ellis Evans a Rhianne Massin i’r ardal o Gaerdydd yn ddiweddar, gan ddechrau ar eu swyddi fel Swyddogion Prosiect Ynni.