Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi wedi arwain at gam nesaf y prosiect £22miliwn a fydd yn sefydlu cyfleuster ynni gwyrdd newydd yng Ngogledd Cymru.
Wedi'i arwain gan Fenter Môn mewn partneriaeth â Hynamics, rhan o'r EDF Group, mae'r prosiect yn ceisio sicrhau cyllid gan Gynllun Twf Gogledd Cymru drwy Uchelgais Gogledd Cymru. Bydd yn darparu'r seilwaith angenrheidiol i gefnogi’r broses o fabwysiadu hydrogen yn gynnar, gan helpu busnesau i gael mynediad at gyflenwad lleol o ynni carbon isel wrth i'r galw ddatblygu.
Bydd y prosiect yn gweld safle cynhyrchu hydrogen gwyrdd 5MW yn cael ei ddatblygu ym Mharc Cybi, Caergybi. Bydd yr hwb, sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio, yn cefnogi'r trosglwyddiad at ynni glanach drwy ddarparu hydrogen wedi'i gynhyrchu'n lleol ar gyfer sectorau sy'n anoddach i'w datgarboneiddio, gan gynnwys trafnidiaeth, logisteg, adeiladwaith, gweithrediadau porthladd a digwyddiadau.
Cynghorydd Gary Pritchard yw Arweinydd Cyngor Ynys Môn ac aelod arweiniol Uchelgais Gogledd Cymru ar gyfer y rhaglen ynni carbon isel. Dywedodd:
"Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol yn garreg filltir bwysig ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi ac yn dangos hyder Uchelgais Gogledd Cymru yn y rôl sydd gan y prosiect i'w chwarae wrth gefnogi'r trosglwyddiad at economi carbon isel.
"Mae hyn yn ymwneud â mwy na chynhyrchu hydrogen gwyrdd. Mae'n ymwneud â chreu'r seilwaith, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gefnogi busnesau, denu buddsoddiad a helpu i adeiladu sector ynni glân newydd yma."
Bydd y prosiect yn cyfuno £8.6 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus, gan gynnwys cefnogaeth gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ac Uchelgais Gogledd Cymru, gyda £13.6 miliwn o fuddsoddiad preifat wedi'i arwain gan Hynamics.
Dros yr oes weithredol o 15 mlynedd sydd dan sylw, mae disgwyl i Hwb Hydrogen Caergybi gynhyrchu bron i 9,000 tunnell o hydrogen gwyrdd a chyflawni oddeutu 80,000 tunnell o arbedion carbon, tra'n cefnogi sgiliau newydd, swyddi a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ar draws gogledd Cymru.
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Mae Caergybi yn lleoliad strategol pwysig ar gyfer datblygu hydrogen gwyrdd yng Nghymru gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chysylltiadau grid cyfredol. Ein gweledigaeth yma ym Menter Môn yw datgloi potensial ein pobl ac adnoddau i sicrhau dyfodol ein cymunedau. Rydym yn ceisio darparu Hwb Hydrogen Caergybi fel rhan o'n portffolio ynni cynyddol, sy'n cael ei yrru gan weledigaeth i greu swyddi lleol, hybu economi'r rhanbarth a sicrhau bod y trosglwyddiad at ynni glân yn darparu budd hirdymor i'n cymunedau. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu a symud y prosiect pwysig hwn yn ei flaen."
Gyda chymeradwyaeth Achos Busnes Amlinellol wedi'i sicrhau, gall y prosiect symud i'r cam nesaf i sicrhau cytundebau masnachol a dechrau datblygu'r Achos Busnes Llawn i'w ystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn.