Yn dilyn trafodaethau helaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych ac Uchelgais Gogledd Cymru, mae’r penderfyniad wedi’i wneud i dynnu prosiect Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan o bortffolio Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Daw’r penderfyniad hwn o adolygiad Cyngor Sir Ddinbych o’r Cynllun Datblygu Lleol, gyda’r dystiolaeth yn cadarnhau gostyngiad yn yr angen am dai newydd yn Sir Ddinbych, a fyddai wedi arwain at brosiect llawer llai. Yn ogystal â gostyngiad yn y nifer o gartrefi sydd ei angen, byddai angen swm sylweddol o arian at ddibenion seilwaith (waeth beth fo nifer y cartrefi).
Mae'n ofynnol i bob un o brosiectau'r Cynllun Twf gyflwyno set gytûn o fuddion i'r rhanbarth erbyn 2036. O ganlyniad i'r newidiadau i'r prosiect, byddai'r buddion yn sylweddol llai nag a nodwyd yn wreiddiol ac ni fyddent yn cael eu gwireddu o fewn amserlen y Cynllun.
Mae Cyngor Sir Ddinbych ac Uchelgais Gogledd Cymru yn cytuno mai dyma'r penderfyniad cywir gan y byddai angen i unrhyw ddatblygiad sicrhau gwerth am arian. Rydym yn cytuno nad oes unrhyw gyfiawnhad dros symud ymlaen â safle Strategol Allweddol Bodelwyddan.
Bydd y cyllid a neilltuwyd dros dro i'r prosiect hwn yn cael ei gadw o fewn y Cynllun Twf a bydd Uchelgais Gogledd Cymru nawr yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwn i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r rhanbarth.
* fframwaith sy'n nodi lle bydd datblygiadau newydd yn digwydd o fewn awdurdod lleol yn seiliedig ar dystiolaeth o angen
Other news
-
26MaiGrŵp Clwstwr Sgiliau Digidol Gogledd Cymru yn penodi Is-gadeirydd newydd
-
31MawSwyddogion newydd i roi hwb i'r sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru
Croesawu dau aelod newydd o staff i ymuno â’r Tîm Ynni Carbon Isel , gyda'r obaith bydd y ddwy rôl yn rhoi hwb i’r sector yng Ngogledd Cymru. Symudodd Danial Ellis Evans a Rhianne Massin i’r ardal o Gaerdydd yn ddiweddar, gan ddechrau ar eu swyddi fel Swyddogion Prosiect Ynni.