Mae strategaeth ynni wedi ei lansio sydd am drawsnewid y ffordd mae ynni yn cael ei ddefnyddio ar draws y gogledd. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r strategaeth fydd yn dod a’r rhanbarth gam yn nes at gyrraedd targedau sero net carbon llywodraeth.

Nod y strategaeth yw taclo rhai o’r materion sydd o bwys gwirioneddol, gan gynnwys newid hinsawdd, twf economaidd ac adferiad wedi Covid19. Tra cydnabod maint yr her o ymdrin â’r heriau hyn mae’r strategaeth hefyd am geisio uchafu cyfleodd economaidd i’r rhanbarth.

I gyflawni’r weledigaeth sy’n cael ei hamlinellu yn y cynllun mae Grŵp Ynni Strategol Gogledd Cymru wedi cael ei sefydlu i ddatblygu, gweithredu a chydlynu gweithgareddau. Daeth y grŵp at ei gilydd am y tro cyntaf yn ystod yr haf.

Llinos Medi yw Aelod Arweiniol rhaglen ynni BUEGC, dywedodd:

“Mae cyfle wedi’r pandemig i sicrhau bod gan ein strategaethau adfer bwyslais ar leihau carbon. Mae ymwybyddiaeth ynglŷn â’r angen i daclo newid hinsawdd ar ei uchaf erioed ac rydyn ni yma yng ngogledd Cymru mewn lle cryf i gyfrannu at yr agenda hon gyda’n prosiectau ynni carbon isel.  

“Bydd y strategaeth yn darparu cyfleodd adfer a thwf sylweddol. A tra bod ni’n gwerthfawrogi maint yr her o’n blaenau mae’r cyfleoedd yn sylweddol hefyd.”

I gyrraedd targed sero net carbon llywodraeth mae angen gostwng allyriadau sy’n gysylltiedig â defnydd ynni o 55% erbyn 2035 ar draws pob sector - gan gynnwys trafnidiaeth, yn y cartref, yn ogystal ag yn byd masnach a diwydiant. Dyma yn union yw nod y Strategaeth Ynni Rhanbarthol, sef datgarboneiddio systemau ynni ond hefyd sicrhau’r manteision o symud i economi carbon isel. 

Y gobaith felly yw bod y strategaeth yn sicrhau budd economaidd, cymdeithasol, ecolegol a llesiant yn lleol, ynghyd â rhoi gogledd Cymru ar y map o ran yr economi sero net. Yn ogystal â manteision i’r amgylchedd mae amcangyfrif hefyd bod gan cyflawni’r strategaeth y potensial i greu hyd at 24,400 o swyddi ychwanegol a chynyddu GVA’r rhanbarth wrth £ 2.4 biliwn.

Cyn COVID-19, roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn disgwyl i’r economi carbon isel dyfu yn gynt nag unrhyw sector arall. Bellach y gred yw bod y potensial hwn lawer iawn yn uwch.  

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r strategaeth hon yn torri tir newydd, gyda photensial i wneud gwahaniaeth trwy greu cyfleodd newydd cyffrous i ogledd Cymru.

“Mae cael cynlluniau sydd wedi eu perchnogi gan gymunedau a busnesau lleol sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau nhw, yn hytrach na disgwyl i eraill ddarparu’r atebion, yn holl bwysig os yw Cymru am greu dyfodol cynaliadwy carbon isel.

“Mae cynllunio systemau ynni carbon isel yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol fel hyn hefyd wedi caniatáu i bartneriaethau pwysig gael eu creu. Mae’r cydweithio yma yn allweddol i sicrhau bod y strategaeth yn gweithio i bobl ar draws gogledd Cymru.”