Erthygl gan Menter a Busnes

Mae Menter a Busnes wedi croesawu sawl aelod newydd i’w Bwrdd, gan gynnwys, am y tro cyntaf, Cyfarwyddwr Anweithredol Ifanc.

Yn gynharach eleni, fe greodd y cwmni economaidd annibynnol blaenllaw swydd i roi cyfle i berson uchelgeisiol o dan 30 oed ennill profiad bwrdd a llywodraethu gwerthfawr a’r cyfle i gyfrannu at gyfeiriad a datblygiad y cwmni.

Yn dilyn proses ddethol fanwl, penodwyd dau Gyfarwyddwr Anweithredol Ifanc i’r Bwrdd – Elin Havard ac Erin Gwenlli Thomas.

Dywedodd cadeirydd y Bwrdd, Fflur Jones, fod Menter a Busnes wedi adolygu ei drefniadau llywodraethu yn ddiweddar.

“Fel rhan o’r adolygiad hwnnw, fe wnaethom nodi nad oedd ein Bwrdd yn gwbl fyfyriol o’r gymdeithas y mae Menter a Busnes yn ceisio ei chynrychioli a gwasanaethu, gan nad oedd gennym bobl iau o dan 30 oed ar y Bwrdd.

“Cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai Menter a Busnes, fel sefydliad sy’n enwog am ei gefnogaeth i egin busnesau Cymru, a’i entrepreneuriaeth eu hun fel cwmni, gynnig cyfle i aelodau iau’r bwrdd ymuno â’n rhengoedd. Byddai hyn yn rhoi cyfle i aelodau ifanc ac uchelgeisiol ein cymunedau dyfu a chael profiad o aelodaeth ar Fwrdd, ond hefyd i ddod â’u safbwyntiau a’u profiadau unigryw eu hunain fel pobl iau i’r Bwrdd.

“Ar ôl proses gystadleuol, roeddem yn falch iawn o benodi Elin Havard ac Erin Gwenlli Thomas i’r Bwrdd. Does gen i ddim amheuaeth, yn dilyn eu cyfweliadau, y byddan nhw’n glod aruthrol iddyn nhw eu hunain ac i Menter a Busnes, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw dros y blynyddoedd nesaf.”

“Dw i wedi gweithio ar brosiectau i ddatblygu’r economi, ac rwy’n angerddol dros ddatblygu Cymru er mwyn sicrhau’r un cyfleoedd yma ag yr wyf wedi’u gweld mewn rhannau eraill o’r DU. Dw i eisiau helpu i yrru cyfleoedd yma, ac i roi rhywbeth yn ôl”.

Mae Erin Gwenlli Thomas, arbenigwr cyfathrebu 28 oed o Borthmadog, yn awyddus i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gyrru busnes llwyddiannus a chwarae ei rhan i helpu i wella’r economi yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Erin yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru, sef partneriaeth sy’n canolbwyntio ar wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y rhanbarth trwy gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru sy’n werth miliynau o bunnoedd. Wedi teithio’n helaeth a gweithio mewn sawl rhan o’r Deyrnas Unedig, mae Erin yn edrych ymlaen at ddefnyddio ei phrofiadau a’i safbwyntiau i gynorthwyo Bwrdd Menter a Busnes.

“Bydd gweithio gyda Bwrdd y Cyfarwyddwyr, gan gynnwys unigolion talentog sydd â phrofiad a sgiliau amrywiol hefyd yn gymorth i fy natblygiad proffesiynol. Fy nod yw cael dealltwriaeth gywrain o sut mae busnes llwyddiannus yn gweithredu ar lefel Bwrdd a sut mae’n gwneud y mwyaf o’i gyfraniad lleol”.

A hithau wedi graddio mewn Rheoli Busnes, mae Erin ar hyn o bryd yn astudio am dystysgrif mewn Uwch Gynhyrchu Cyfryngau. Yn aelod o’r Chartered Institute of Public Relations, mae Erin o’r farn bod ei swydd gyda Menter a Busnes fel profiad dysgu hanfodol yn adeiladu tuag at ei nodau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd, “Fy uchelgais yw rhedeg cwmni fy hun yn y dyfodol. Bydd gweithio gyda Menter a Busnes yn fy helpu i ddatblygu’r sgiliau busnes ychwanegol hynny i wneud hynny”

Wedi’i leoli yn Aberystwyth, gyda swyddfeydd ar draws Cymru, mae Menter a Busnes wedi mwynhau llwyddiant arbennig wrth weithredu ym myd amaethyddiaeth, datblygu sgiliau, a bwyd a diod. O’r herwydd, mae’r cwmni’n rheoli sawl rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys elfennau o Cyswllt Ffermio a Cywain.

Felly, i’w chyd-gyfarwyddwr ifanc Elin Havard, bydd lle ar Fwrdd Menter a Busnes yn ategu at ei bywyd gwaith a’i diddordebau personol.