Erthygl wedi ei ysgrifennu gan Martin Williams.

Bydd bioffatri arloesol yn cefnogi ffermwyr Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Cyhoeddwyd y system treulio anaerobig drawiadol, yr wythnos yma,gan Biofactory Energy a Choleg Cambria - Llysfasi, gyda chefnogaeth Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae’n un o dair menter carbon isel a ariennir ar y cyd gan grant o £500,000 gan WBRID, Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddau gynhwysydd llongau a drawsnewidiwyd yn ffatri brototeip wedi'u henwi yn Neli a Gobaith (Hope) gan fyfyrwyr y coleg a byddant yn cael eu paentio'n ddu a gwyn i ymdebygu gwartheg godro.

Nod hirdymor Biofactory Energy, mewn partneriaeth â darlithwyr a dysgwyr, yw i ffermydd llaeth leihau allyriadau o reoli slyri gan ddefnyddio technoleg arloesol, ac i’r system ddod yn fasnachol hyfyw ac yn berthnasol i gynifer o ffermwyr â phosibl.

Dywed rheolwr y prosiect, George Fisher, fod diddordeb ac adborth o bob rhan o'r maes amaethyddol yn cynyddu.

 

Mae perthnasedd a phwysigrwydd y cynllun hwn wedi taro tant gyda ffermwyr yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, yn rhannol oherwydd bod hwn yn ddatrysiad treulio anaerobig graddadwy,” meddai George.

“Mae’n un o nifer o ddatblygiadau sydd ar y gweill a fydd yn cael effaith fawr ar ddyfodol y diwydiant yng Nghymru, wrth i ni weithio gyda sefydliadau allweddol i gefnogi a chyflwyno dulliau newydd, cynaliadwy o ffermio.

“Bydd technoleg Micro-AD (Treulio Anaerobig) yn trosi allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ynni a fydd yn cael ei ddefnyddio at sawl diben ar y safle, o gynhesu dŵr i oeri a phweru offer i lanhau’r llaethdy.

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen ac rydym yn gyffrous i weld y canlyniadau.”

 

Mae Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r cynllun ac i weld y system arddangos yn ei lle.

Mae ganddi obeithion mawr am sut y gall y dechnoleg fod o fudd i drigolion a busnesau’r rhanbarth, gan ychwanegu: “Mae’n hollbwysig treialu atebion a all helpu ffermwyr Gogledd Cymru i gyrraedd targedau sero-net y sector, ac mae’n gyffrous bod Llysfasi yn safle prawf ar gyfer hyn.

“Gyda phwysigrwydd amaethyddiaeth i economi Gogledd Cymru, mae treialu technolegau newydd yma yn golygu y gallwn helpu i siapio eu datblygiad i sicrhau eu bod yn addas i’r pwrpas.”

 

Mae’r diwydiant ffermio llaeth yn ganolog i Ogledd Cymru, gan gyflogi saith y cant o’r gweithlu a chyfrannu mwy na £370m i’r economi bob blwyddyn.

Dywedodd rheolwr fferm Llysfasi, Dewi Jones: “Mae unrhyw beth y gallwn ei ddefnyddio sy’n helpu i leihau allyriadau ac sydd hefyd yn cronni’n ariannol i’w groesawu, ac rydym yn gweld y datblygiad newydd hwn fel y cyntaf o lawer y byddwn yn ei fabwysiadu yn Llysfasi er mwyn datgarboneiddio ein cynhyrchiant bwyd yn y dyfodol. ar lefel cynhyrchydd cynradd.”