Mae trigolion Llandwrog, Gwynedd wedi croesawu'r newyddion mai eu tafarn gymunedol, Ty'n Llan, fydd y sefydliad cyntaf i elwa o Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru.
Daw'r gefnogaeth wrth i gostau ynni cynyddol barhau i effeithio ar fusnesau ac aelwydydd ledled y rhanbarth.
Bu'r dafarn ar gau am gyfnod o dair blynedd, cyn iddi gael ei phrynu, ei hadfer a'i hailagor yn ddiweddar trwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Ers ei hailagor, daeth yn ganolfan leol boblogaidd ac yn fan cyfarfod pwysig i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Roedd Menter Ty'n Llan yn awyddus i adeiladu ar ei huchelgais i ddod yn fwy cynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol, a chyflwynodd gais am gymorth drwy raglen sector gwirfoddol Cronfa Ynni Glân Uchelgais Gogledd Cymru, o dan ofal Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r grant wedi cefnogi gosod pwmp gwres ffynhonnell ddaear, paneli solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar y ddaear, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Meddai Wyn Roberts, Cadeirydd Menter Ty'n Llan:
"Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein menter, ac rydym yn falch iawn o sicrhau'r gefnogaeth hon. Bydd y cyllid yn helpu i leihau ein costau ynni, yn lleihau allyriadau carbon, ac wedi darparu cyfleusterau gwefru i gerbydau trydan. Rydym yn ddiolchgar i Uchelgais Gogledd Cymru a CGGC am eu cefnogaeth. Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cryfhau Ty'n Llan fel canolfan hyfyw sy'n eiddo i'r gymuned, wrth i ni ail-fuddsoddi'r arbedion mewn swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau sy'n dod â phobl at ei gilydd."
Lansiodd Uchelgais Gogledd Cymru y gronfa Ynni Glân gwerth £24.6 miliwn, prosiect Cynllun Twf Gogledd Cymru – wedi'i ariannu gan lywodraethau Cymru a'r DU, yn 2025 i gefnogi busnesau a mudiadau gwirfoddol i ddatblygu mentrau ynni glân lleol. Mae'r gronfa gyffredinol, a fydd yn rhedeg dros gyfnod o bum mlynedd i ddechrau, yn cynnwys dwy is-gronfa allweddol ar gyfer sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru. Is-gronfa sector gwirfoddol dan arweiniad CGGC - wedi'i chynllunio ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol, a phrosiectau dan arweiniad y gymuned; gydag UMi yn cyflawni is-gronfa sector preifat ar gyfer busnesau. Disgwylir iddi helpu i gyflawni £100 miliwn o fuddsoddiad ar draws y rhanbarth a lleihau allyriadau carbon hyd at gyfwerth o 125,000 tunnell o garbon deuocsid.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol Uchelgais Gogledd Cymru dros Ynni Carbon Isel, ac Arweinydd Cyngor Ynys Môn:
"Mae'n wych i weld y gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y Gogledd. Drwy fuddsoddi mewn prosiectau ynni glân a datgarboneiddio, gall sefydliadau leihau costau, gwella effeithlonrwydd a chyflwyno cyfleoedd newydd, tra'n helpu i adeiladu dyfodol mwy gwyrdd i'r rhanbarth."
Meddai Gwenith Elias, Rheolwr Buddsoddi Ynni Glân, CGGC:
"Mae CGGC a Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi bod yn falch o ariannu Ty'n Llan ers iddi gael ei phrynu, a bu'n bleser gwirioneddol i'w helpu gyda'r cam nesaf yn ei datblygiad. Daw'r cynllun hwn â manteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol sy'n cyd-fynd yn berffaith â'n dull o ariannu sefydliadau sector gwirfoddol yng Nghymru sy'n gyfeillgar i'r blaned. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn mynd o nerth i nerth."
Mae CGGC yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru i ddarparu is-gronfa sector gwirfoddol y Gronfa Ynni Glân sy'n werth £5 miliwn.