Darn barn gan Reolwr Rhaglen Cynllun Twf, Robyn Lovelock

 

Pan fethodd y trydan ar ein car oedd bron yn newydd yn ddiweddar heb unrhyw rybudd, manteisiais ar y cyfle i brofi bywyd heb gar am y tro cyntaf yn fy mywyd fel oedolyn. Rwy'n ymroddedig i deithio llesol hyd yn oed pan fydd gennym gar – rydym yn beicio neu'n cerdded y 2.5 milltir i/o'r ysgol y rhan fwyaf o ddiwrnodau, yn defnyddio'r beic ar gyfer teithiau byr o amgylch y dref ac yn cymudo i'r gwaith yng Nghyffordd Llandudno unwaith yr wythnos ar feic a thrên. Fodd bynnag, wrth weithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru, mae fy swydd yn mynd â mi ar draws y rhanbarth cyfan yn rheolaidd – rhanbarth sy'n fwy adnabyddus am harddwch golygfaol ei ffyrdd mynyddig nag am ei gysylltedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.

 

I'r rhai ar frys:

  • Yr uchafbwyntiau oedd: teithio hamddenol ar drafnidiaeth gyhoeddus gydag amser i weithio ar-lein a myfyrio all-lein; hwb iechyd o gerdded a beicio mwy; a chysylltiadau hyfryd a wnaed gyda phobl y des ar eu traws ar fy nhaith y byddwn i wedi'u colli yn fy nghar.
  • Yr anfanteision? Rhai llwybrau cymharol fyr yn amhosibl eu gwneud oherwydd yr angen i newid bysiau mor aml; newidiadau i amserlenni bysiau a chost ychwanegol sylweddol.
  • I grynhoi: mae angen gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy tra bod pobl yn adeiladu arferion newydd; mae angen i ni sicrhau bod bysiau a threnau'n gallu cario beiciau'n hawdd fel bod teithiau'n cysylltu'n well; ac mae angen llwybrau gwell sy'n gweithio i drigolion ac ymwelwyr i'n rhanbarth hardd.

 

I'r rhai sy'n hapus i ddilyn y llwybr golygfaol:

 

Wythnos 1

Diolch byth, yn ystod yr wythnos gyntaf pan oedd y car wedi torri lawr, doedd ond angen i mi fynd i’r swyddfa ddydd Llun - taith rydw i wedi dod yn gyfarwydd â hi: llwybr 7 milltir, ar hyd Camlas hardd Llangollen yn bennaf i gyrraedd gorsaf Rhiwabon. Mae'n cymryd tua 35 munud ar gyflymder cyson, ond dwi'n rhoi 50 munud i fy hun fel nad ydw i’n poeni am fod yn hwyr ar gyfer trên 08:56. Mae gan drenau yng Nghymru 2 le ar gael ar gyfer beiciau, ond yn ddieithriad mae rhwng 3 a 6 ohonom ar rannau o'r daith i Gyffordd Llandudno - rydyn ni i gyd yn hapus i jyglo'r pentwr beiciau fel bod cyd-feicwyr yn gallu cael eu beiciau i ffwrdd yn yr orsaf gywir. Os ydy teithio ar feic gyda chymorth trenau yn mynd i ehangu, cyn hir mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i orfod ailystyried y ffordd orau i gario beiciau ar eu trenau. Ar ôl awr yn gweithio ar y trên, mae hi’n eithaf hawdd i mi gael fy meic oddi ar y trên yn fy ngorsaf, seiclo 5 munud i'r swyddfa, ac ymolchi’n sydyn wrth y sinc wrth i mi newid i mewn i’r dillad swyddfa dwi wedi eu rholio'n ofalus i mewn i fy mag. Yna wedi llyfiad o fy niaroglydd Cymreig ac ail-wneud fy ngwallt yn byn llac, dyna fi wrth fy nesg yn barod ar gyfer cyfarfod am 9:30am.

 

Wythnos 2

Does dim newyddion o'r garej, sy’n gwneud i mi boeni ryw ychydig. Cefais ddeuddydd yr wythnos hon yn teithio o gwmpas. Dydd Mawrth yn ôl i Landudno, ail-wneud taith wythnos 1 ond gyda golygfeydd syfrdanol o’r haul yn gwawrio ac yn machlud i ddechrau a diweddu'r diwrnod yn wych. Yna, ar y dydd Iau roedd gen i gyfarfod gyda thîm rhanbarthol Cyswllt Ffermio yn y Bala. Dim problem o gwbl, diolch i'r gwasanaeth bws gwych TrawsCambria. Mi wnes i fynd â’r plant i'r ysgol ar y beic, cloi fy meic yng nghanol tref Llangollen, cael coffi blasus (yn fy nghwpan coffi gwydr ailddefnyddiadwy – byddai Gweinidog yr Amgylchedd y DU, Therese Coffey wedi bod yn falch) a neidio ar y bws. Mae'n llwybr troellog ar hyd Dyffryn Dyfrdwy, drwy lawer o bentrefi, ond dim ond 20 munud yn hirach mae’n ei gymryd ar y bws o gymharu â gyrru – fe wnes i dreulio’r amser yn gwylio'r golygfeydd ac yn meddwl drwy rai agweddau heriol ar fy mhrosiectau Cynllun Twf, gan wneud rhai nodiadau yn fy llyfr wrth fynd. Ar ôl cyfarfod llwyddiannus, fe wnes i ddarllen fy e-bost gwaith ar fy ffôn yn y safle bws ac yna anelu tuag adref heb unrhyw drafferth, yn ôl wrth fy nesg yn fuan ar ôl cinio. Dydi peidio â chael car ddim mor anodd â hynny wedi'r cyfan.

 

Wythnos 3

Mae'n ymddangos bod y garej yn arbrofi ar sut i drwsio'r car, wedi newid yr alternator a'r CEM heb lwc, bellach yn rhoi cynnig ar fodiwl DEM. Croesi bysedd. Bu'n rhaid i mi wynebu fy her fwyaf eto - cyrraedd Coleg Amaethyddol Glynllifon ar arfordir gorllewin Gwynedd, i'r de o Gaernarfon. Ac am gyfarfod roeddwn i eisiau edrych yn arbennig o daclus ar ei gyfer. Yn hytrach na seiclo i'r trên, penderfynais ddal y bws i'r orsaf. Roedd hwn yn gadael canol tref Llangollen felly fe gychwynnais o’r tŷ ar droed am y daith gerdded 15 munud i'r safle bws. Yn anffodus, sylweddolais wrth i mi gyrraedd yno fod amserlen y bws wedi newid ers i mi gymryd y bws 7:30 yma ddiwethaf –  argh! Dwi wedi teithio ddigon ar fws i wybod y dylwn i bob amser edrych eto ar yr amserlen! Wrth wirio amserlen y bws ar wefannau’r amrywiol gwmnïau, roedd hi'n ymddangos bod yr unig fws allai fy nghael i i'r orsaf wedi gadael 35 munud ynghynt. Roedd y bwrdd digidol gydag amseroedd y bysiau wedi'i osod, ond nid oedd yn weithredol eto. Roedd hyn yn fy ngadael gyda dau opsiwn - aros mewn caffi cyfagos tan y bws nesaf oedd yn cysylltu â’r trên neu drio cael lifft gyda rhywun oedd yn pasio. Dydi Uchelgais Gogledd Cymru ddim yn hyrwyddo ‘hitch-heicio’ i’w staff felly roedd pa un bynnag o'r opsiynau hynny wnes i ei gymryd yn gyfan gwbl ar fy risg fy hun, ac fe gyrhaeddais i'r swyddfa ar amser, yn barod i gysylltu â chydweithiwr oedd yn gyrru gweddill y ffordd i Glynllifon. Wythnos lwyddiannus, os heriol, heb gar.

 

Wythnos 4

Wrth i'r garej ddechrau gwneud synau mwy positif am gyflwr ein car, rwyf o'r diwedd yn wynebu her trafnidiaeth gyhoeddus nad oes modd dod drosti: sut i fynd o Langollen i Ganolfan Optic ger Llanelwy. Er bod y Ganolfan yn yr un sir â lle dwi’n byw, doedd dim llwybr ymarferol - yn enwedig i gyrraedd mewn pryd ar gyfer cyfarfod cynnar. Roedd pob opsiwn yn cymryd dros 2.5 awr ac roedd angen newid bws 3+ o weithiau, sydd bob amser yn risg, a fyddai’r un ohonynt yn cyrraedd ar amser.  Wedi derbyn y byddwn yn methu gyda’r her hon, cefais fenthyg car gan aelod o'r teulu a gyrru i Lanelwy.

 

Yn gyffredinol

Wrth edrych yn ôl ar fy mis, dwi wir yn teimlo bod gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch o fewn ein gafael!

Er fy mod yn byw mewn tref eithaf gwledig, mae bysiau'n rhedeg i'n tref agosaf bob 30 munud, gan basio ein gorsaf drenau agosaf bob tro; mae llochesau bysiau wedi cael eu huwchraddio i gynnwys amserlenni digidol; mae opsiynau beicio yn iawn ac yn gwella drwy'r amser. Mae'n ddechrau gwych.

Fodd bynnag, mae angen i ni weld rhai newidiadau pwysig a brys er mwyn i opsiynau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ddod yn norm. Fy nhri cais uchaf yw:

  1. Mae'r gallu i gario beiciau ar fysiau yn hanfodol, gan ymestyn y radiws mae pobl yn defnyddio'r bws o 1 milltir i 3 milltir. Rwyf wedi ysgrifennu papur trafod ar wahân ar y potensial ar gyfer gosod cludwyr beiciau ar flaen bysiau - dull a ddefnyddir yn eang ac yn llwyddiannus iawn ar draws UDA. Mae lle ar gyfer beiciau y tu mewn i fysiau hefyd yn dod yn boblogaidd mewn mannau eraill – fel y gwelsom yn Efrog yn ddiweddar! Bydd angen i fysiau a threnau ddarparu ar gyfer mwy o feiciau nag y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd.
  2. Cais mwy yw lansio llwybrau newydd i wneud yn siŵr bod hybiau allweddol yn hygyrch. Dylai pobl o Langollen allu cyrraedd tref sirol Rhuthun heb newid bysiau, a byddai llwybr y Trallwng > Croesoswallt > Llangollen > Rhuthun > Dinbych > Llanelwy>y Rhyl yn agor ardaloedd hardd o Ogledd Ddwyrain Cymru i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
  3. Ac yn olaf, ond yn bwysicaf oll: mae angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn fforddiadwy. Mae'r daith car o Langollen i Gyffordd Llandudno ac yn ôl yn costio tua £6 mewn tanwydd; mae’r trên yn costio tua £20, a £2.80 os ydw i’n mynd ar y bws i'r orsaf. Er bod hyn yn anwybyddu'r costau eraill o fod yn berchen ar gar, dyma’r gymhariaeth mae perchnogion ceir yn ei gwneud felly mae'n rhaid i'r opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus ennill ar gostau - o leiaf i helpu pobl i adeiladu arferion newydd. Mae'r Almaen newydd gyhoeddi trafnidiaeth gyhoeddus diderfyn am £1.40 y dydd ac mae Sbaen wedi gwneud trafnidiaeth gyhoeddus am ddim tan ddiwedd 2023. Byddwn i wrth fy modd yn gweld Cymru'n arwain y DU wrth gynnig yr un peth. Yn enwedig gan mod i newydd gael bil am dros £4,000 ar gyfer y gwaith ar fy nghar.

 

Llun: Drosi Bikes