Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi cyhoeddi mai eu helusen ar gyfer eleni yw’r hosbis plant, Tŷ Gobaith.

Yn awyddus i gefnogi gwaith tîm yr hosbis trwy godi arian, mae Uchelgais Gogledd Cymru hefyd eisiau sicrhau ei fod yn gwneud cyfraniad, nid yn unig at les economaidd y rhanbarth, ond hefyd at les y gymuned yn ehangach.

quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru: “Roedden ni am gydnabod gwaith diflino staff a gwirfoddolwyr Tŷ Gobaith wrth iddynt ddarparu gwasanaethau hanfodol i blant sy’n wynebu heriau difrifol. Drwy wneud hyn rwy’n gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau’r teuluoedd hyn a helpu Tŷ Gobaith i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith anhygoel maen nhw yn ei wneud.”

quotation graphic

Yn rhan o’r bartneriaeth, bydd Tŷ Gobaith yn derbyn cefnogaeth yn sgil gweithgareddau codi arian staff Uchelgais Gogledd Cymru, gan gynnwys ddigwyddiadau codi arian yr hydref hwn yng Nghastell Penrhyn, RSPB Conwy a Chastell y Waun. Wedi’u trefnu gan Tŷ Gobaith ei hun, mae’r digwyddiadau, Dark Run, 5k i deuluoedd yn annog pobl i redeg neu gerdded y pellter wrth iddi nosi, i gefnogi’r hosbis.

quotation graphic

Gan ddiolch am y gefnogaeth, dywedodd Andy Everley o Tŷ Gobaith: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Uchelgais Gogledd Cymru am ein dewis ni fel eu elusen eleni. Rydym yn edrych ymlaen at gyd weithio dros y 12 mis nesaf. Heb os bydd eu cefnogaeth yn helpu ni i sicrhau bod y rhai sy’n wynebu cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd yn cael y gofal, y cysur a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

quotation graphic

Agorodd Hope House ddrysau ei hosbis gyntaf ym 1993 fel dim ond y ddegfed hosbis i blant yn y byd - heddiw mae’n cefnogi 750 o deuluoedd. Agorodd yr ail hosbis, Tŷ Gobaith yng Nghonwy yn 2004 – gan ddarparu gwasanaethau i deuluoedd yng Ngogledd Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch: Llinos Iorwerth 07970 997124 / llinos@atebcymru.wales neu Andy Everley ar Andy.Everley@hopehouse.org.uk 

Cliciwch yma i wneud cyfraniad

Robyn a'i theulu wedi gwisgo fel dreigiau ar gyfer rhediad tywyll Castell Y Waun
Aelodau o'r tîm gymerodd rhan yng Nghonwy
Castell Conwy
Aelodau o'r tîm gymerodd rhan yng Nghastell Penrhyn
Pawb yn gwenu
Castell Penrhyn