Mae taith gerdded 383 milltir, ar hyd arfordir Gogledd Cymru, o Fachynlleth i Shotton wedi codi mwy £2,300 ar gyfer elusennau iechyd meddwl lleol i helpu ariannu gofal cymunedol.

Fe gerddodd tîm Uchelgais Gogledd Cymru a’u teuluoedd y llwybr cyfan yn ystod mis Hydref fel rhan o’r digwyddiad codi arian. Roedd y daith hefyd yn nodi lansio blwyddyn o weithgareddau gan Uchelgais Gogledd Cymru er budd elusennau Mind Lleol y gogledd.

Alwen Williams yw Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru: “Rydyn ni hynod o falch ein bod ni wedi gallu codi cymaint o arian a hynny ar ddechrau ein hymgyrch 12 mis i gefnogi elusennau Mind yn lleol. Y gobaith yw byddwn yn gallu codi llawer iawn mwy dros y flwyddyn nesaf.

“Fel llawer, mae fy nhîm a minnau wedi bod yn gweithio gartref, ers 18 mis, gyda chyfleoedd i gyfarfod wyneb yn wyneb yn brin. Roedd yr her yma yn berffaith felly wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf i droedio’r milltiroedd a mwynhau bod yn yr awyr agored ac ar y llwybr ar hyd ein harfordir anhygoel.

Rwyf wedi gweld cydweithwyr yn dod yn ffrindiau go iawn yn ystod y daith - dydi’r math yma o gyswllt ddim yn digwydd dros Zoom na Teams - mae wedi bod yn ffordd go iawn o daclo teimladau o unigrwydd. Mae hefyd wedi golygu ein bod ni fel tîm wedi dod at ein gilydd am y tro cyntaf ers tro.”

Bydd yr holl arian sydd wedi ei godi yn mynd i gefnogi’r rhai sy’n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â chodi arian i Mind y nod oedd annog pobl i fynd allan i’r awyr agored, i fwynhau cefn gwlad Gogledd Cymru ac i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ganolbwyntio ar lesiant ac i fod yn actif.

Jenny Murphy yw Prif Weithredwr Mind Gogledd Ddwyrain Cymru, dywedodd: “Hoffwn ddiolch i dîm cyfan  Uchelgais Gogledd Cymru am eu hymdrechion gwych. Mae  cerdded 383 milltir yn dipyn o gamp - ac rydym mor ddiolchgar iddynt am ddewis grwpiau Mind yng Ngogledd Cymru fel yr elusennau i gefnogi am y flwyddyn ac am drefnu'r daith gerdded wych hon.

“Heb oes mae’r pandemig wedi cynyddu pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl ac rydan ni wedi gweld cynnydd yn y galw am gefnogaeth. Eleni y byddwn yn gallu cefnogi mwy o bobl ond hefyd tynnu sylw at yr heriau mae pobl yn wynebu a sut mae cael cymorth a chyngor.”

Mae’r tîm Uchelgais Gogledd Cymru yn awyddus i ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch hyd yma ac am atgoffa pobl bod dal modd cyfrannu trwy fynd i'r linc isod:

Y tîm yn cerdded y goes olaf yng Nghonwy
Y tîm yn cerdded y goes olaf yng Nghonwy