Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am arweinwyr o’r sector preifat i helpu i lunio dyfodol y rhanbarth fel rhan o’i Fwrdd Busnes Ymgynghorol newydd.

Bydd aelodau newydd y bwrdd yn cynrychioli busnesau a chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru, gan ddarparu mewnwelediad, cyngor annibynnol a her adeiladol wrth i Uchelgais Gogledd Cymru gyflawni rhaglen drawsnewidiol o waith i ysgogi twf economaidd. 

Gan weithredu fel endid llywodraeth leol, mae gan Uchelgais Gogledd Cymru gyfrifoldebau statudol, gan gynnwys cyflawni Cynllun Trafnidiaeth Strategol Rhanbarthol, Cynllun Datblygu Strategol, a hyrwyddo a gwella lles economaidd rhanbarthol. 

O fewn y gwaith hwn, mae cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cyflymu, ac mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam ar y gweill — gyda’i gilydd yn cynrychioli £400 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth. Nod y rhaglenni hyn yw datgloi hyd at £2 biliwn o fuddsoddiad cyffredinol a chreu mwy na 10,000 o swyddi dros y degawd nesaf. 

Bydd y Bwrdd Cynghori Busnes yn ganolog i’r cynnydd hwn — gan ddarparu cyngor strategol a gweithredu fel llais cryf dros Uchelgais Gogledd Cymru a’r rhanbarth. 

Bydd y bwrdd yn cael ei gadeirio gan Dave Penrith, gyda Nick Bennett yn Is-gadeirydd. Mae’r ddau yn gwasanaethu fel Ymgynhorwyr Anweithredol i Uchelgais Gogledd Cymru ac, gyda’i gilydd, maent yn dod ag arbenigedd helaeth ym maes prosiectau cyfalaf, llywodraethu, peirianneg, tawsnewid digidol a datblygu economaidd. 

quotation graphic

Dywedodd Dave Penrith: 

Bydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol yn chwarae rôl hollbwysig wrth yrru newid a sicrhau bod Gogledd Cymru yn cyflawni ei lawn botensial economaidd
er
budd ei busnesau a’i phobl. Mae’r cyfle i ddod yn aelod o’r bwrdd yn gyfle prin i chwarae rhan allweddol 
wrth helpu i lunio dyfodol y rhanbarth a gwneud effaith barhaol.”
 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Nick Bennett: 

“Mae’n gyffrous dod â’r Bwrdd newydd hwn ynghyd ar adeg mor dyngedfennol — 
lle gall weithredu fel catalydd gwirioneddol ar gyfer llwyddiant economaidd hirdymor. Rydym yn chwilio am arweinwyr o’r sector preifat sydd â rhwydweithiau cryf, barn gadarn ac angerdd dros gefnogi buddsoddiad trawsnewidiol ar draws Gogledd Cymru.”
 

quotation graphic

Mae rolau aelodau newydd y bwrdd yn swyddi gwirfoddol di-dâl, ac mae angen ymrwymiad i gyfarfodydd bob dau fis, ochr yn ochr ag ymgysylltu gweithredol â rhanddeiliaid a phartneriaid.