Erthygl wedi ei ysgrifennu gan Food and Drink Awards

Gyda'r ceisiadau bellach wedi agor ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023, mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi rhestr gyffrous o noddwyr.

Yn dilyn llwyddiant y gwobrau agoriadol mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru yn parhau i ddathlu'r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yng Nghymru.

 

Cyhoeddwyd nifer o noddwyr newydd ar gyfer 2023, maent yn cynnwys;  Levercliff,  ymgynghorwyr yn y diwydiant bwyd a diod, sy'n noddi categori Cynhyrchydd Diodydd y flwyddyn. Mae Levercliff yn dod â mewnwelediadau a dadansoddiad sy'n procio'r meddwl, gan roi darlun cywir o'r farchnad i'w cwsmeriaid i weld lle mae'r cyfleoedd yn gorwedd.  Mae BIC Innovation, yn arbenigo mewn helpu busnesau bwyd a diod uchelgeisiol i gynyddu mewn ffordd gynaliadwy yn noddi busnes Graddfa Bwyd a Diod y flwyddyn.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru hefyd yn ymuno â ni, gan ein bod wedi symud y gwobrau i Ogledd Cymru eleni. Uchelgais Gogledd Cymru yw gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y rhanbarth. Maent yn noddi'r Categori Gwydnwch Busnes ar gyfer y gwobrau.

Dywed Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf yn Uchelgais Gogledd Cymru :

"Rydym yn falch iawn o groesawu Gwobrau Bwyd a Diod Cymru i Ogledd Cymru eleni ac i noddi gwobr Gwydnwch Busnes. Mae'r Gwobrau yn gyfle i ddathlu llwyddiant y diwydiant anhygoel hwn sydd yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru. Rydym yn falch o chwarae rhan i gydnabod y talent a'r llwyddiannau o fewn y sector.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwytnwch wedi bod yn hanfodol yn y diwydiant bwyd a diod wrth i'n busnesau wynebu heriau COVID, cynyddu costau a rheoliadau newydd yn uniongyrchol drwy arloesi a dyfalbarhad. Bydd gwytnwch yn parhau i fod yn hanfodol wrth i ni i gyd chwilio am ffyrdd o addasu i heriau cynyddol yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae'r gwobrau hyn yn dyst i'r llu o fusnesau anhygoel sydd wedi dangos gwir wytnwch i lwyddo a pharhau i wneud hynny.

Rydym yn edrych ymlaen at y Gwobrau a dathlu gyda'r gorau o'r goreuon yn Bwyd a Diod Cymru."

Mae'r trefnwyr yn falch iawn o gael cefnogaeth Croeso Conwy a chynnal y digwyddiad ar draws Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ar 18 Mai 2023.

 

Meddai'r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Cyngor Conwy:
 "Rydym wrth ein boddau ein bod yn cynnal Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023 yma yn Venue Cymru yn Llandudno. Does dim byd yn sefydlu ymdeimlad o le yn eithaf tebyg i bryd neu ddiod traddodiadol sydd wedi'i saernïo o gynhwysion a dyfir yn lleol. Mae profi a blasu bwyd a diod lleol yn un o bleserau mawr ymweld â Chymru, ac yn fwy lleol ein sir brydferth yng Nghonwy. Rydym yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod angerddol, talentog ac arobryn, ac mae'r gwobrau hyn yn gyfle a llwyfan perffaith i ddathlu ac arddangos llwyddiannau'r sector pwysig hwn."

Mae'r noddwyr newydd yn ymuno a Castell Howell, Cywain, Buddsoddiadau BC, Hyfforddiant Cambrian, Arloesi Bwyd Cymru, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Hugh James, Village Bakery, Menter Môn, Business News Wales a Stills, a noddodd a chefnogodd y gwobrau cyntaf.

Gyda'r seremoni clymu-ddu yn cael ei chynnal ar 18 Mai 2023 yn Venue Cym

ru, Llandudno, mae'r ceisiadau ar agor tan 17 Mawrth.  Mae 15 categori i fynd i mewn a gall cwmnïau ymrwymo hyd at 2 gategori.

I weld mwy am ymgeisio yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru neu gyfleoedd noddi ewch i'r wefan https://foodanddrinkawards.wales/