Mae ymgyrch i annog pobl i ddychwelyd adref i ogledd Cymru wedi bod yn llwyddiant, gyda dau deulu Cymraeg yn barod wedi dod yn ôl i fyw a gweithio yma yn sgil yr ymgyrch, a sawl person arall mewn trafodaethau i wneud yr un peth. 

Roedd yr ymgyrch “Dewch yn ôl” a redodd am 3 mis o Ionawr 2021 yn targedu talent a adawodd Cymru am waith neu addysg ond sydd wedi bod eisiau dod yn ôl.  Y neges oedd i ddychwelyd i'r rhanbarth i fyw,  gweithio neud sefydlu busnes gan ddangos bod gogledd Cymru’n ardal ble mae gyrfaoedd â chyflog da, a digon o gefnogaeth i fusnesau o’r newydd.

Yn cael ei redeg gan M-SParc mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Llwyddo’n Lleol, Prifysgol Bangor, Darogan Talent, Cynghorau Gwynedd a Môn ac eraill, mae’r ymgyrch yn sicr wedi cyrraedd y nôd i ddod â thalent lleol yn ôl ac yn parhau i gefnogi rheini sydd ar y siwrne gartref.

Roedd nifer fawr o bobl ledled y Deyrnas Unedig sydd â chysylltiadau â gogledd Cymru wedi ymateb i'r ymgyrch a mynegi eu diddordeb mewn dychwelyd i fyw, gweithio neu gychwyn busnes yma, gan ddangos bod y cyfleoedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan M-SParc a phartneriaid yn gynnig deniadol i ddod â phobl yn ôl i'r rhanbarth.

O Fôn yn wreiddiol ond wedi symud i ffwrdd oherwydd gwaith ers rai blynyddoedd, roedd Catrin Owen eisoes wedi penderfynu mae adref i Fôn Mam Cymru roedd hi eisiau symud rhyw ddiwrnod, a manylodd hi pa mor gyffrous roedd hi o weld y cynnig gan M-SParc: 

“Dwi wedi cael fy ngeni a wedi tyfu fyny ar Ynys Môn, ond mi fues i'n byw yn Brighton ers 4 mlynedd, a cyn hynna yng Nghaerdydd.” Medda Catrin. “Roeddwn i a fy mhartner wedi penderfynu na dod yn ôl i Ynys Mon oedd y bwriad rhyw ddiwrnod. Da ni'n teimlo nad oes unlle fel Gogledd Cymru, gyda’r traethau gorau a Eryri ddim yn bell i ffwrdd!

"Yn ystod y pandemig, roeddem ni'n cadw llygad ar be oedd yn mynd ymlaen yn y byd digidol yn Ngogledd Cymru, a roedd hi'n gyffrous i glywed am y gymuned yn M-SParc. Rydw i yn gyd-sylfaenydd cwmni, Kopa, asiantaeth creadigol a strategaeth busnes sy'n cyfuno y ddau beth yma i adeiladu brandiau sy'n tyfu.” Mae Catrin erbyn hyn yn byw a gweithio yn ei chynefin.

O Gaernarfon yn wreiddiol, roedd Rhodri Farrer wedi bod yn gweithio yng Ngorllewin Cumbria ers iddo raddio o Brifysgol John Moores Lerpwl yn 2016, ond wnaeth ei ddiddordeb yn yr ymgyrch Dewch yn Ol alluogi M-SParc i’w gyfeirio at swydd gyda Faun Trackway, Llangefni, ble mae o bellach yn gweithio. Dyma beth oedd gan Rhodri i’w ddweud am y cyfan:

“Pan gychwynnais gweithio yn y sector niwclear, y bwriad oedd i ddod nol i Sir Fôn i weithio ar Wylfa Newydd, ond ers i hynny gael ei ganslo dwi wedi bod yn cadw llygad am swyddi eraill nes at adra, ond heb dim lwc gan bod unai y swydd dim yn ffit da i mi, neu bod fi ddim yn gwybod am gyfleoedd.

“Mi welais yr hysbyseb "dewch yn ôl" ar Linkedin a mi wnes i seinio i fyny yn syth. Mi gawsom sgwrs yn holi sut gymorth oeddwn i angen, ac yna sawl e-bost am gyfleoedd oedd yn codi - y rhan fwyaf ohonynt yn rhai oeddwn i heb weld ar llefydd eraill megis Indeed.

“Mae "dod yn ôl" yn bwysig i mi oherwydd mae fy mhartner wedi rhoi fyny efo fi yn gweithio i ffwrdd ers blynyddoedd, hefyd mae gennai busnes dwi'n rhedeg gyda fy mrodyr a byswn i’n medru cyfrannu lot mwy os byswn i adref. Mae genna’i hiraeth am yr ardal yn gyffredinol, ac byswn i heb adael ond fod o’n anodd cael cyfleoedd a gwell cyflog i pobl ifanc, yn enwedig yn yr sector peirianneg. Mae’n grêt i weld fod y cyfleoedd yna’n dechrau cynyddu.”

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Cyfarwyddwr M-SParc, hyn am yr ymgyrch:

“Roedden ni eisoes yn teimlo’n gyffrous iawn am yr ymgyrch arbennig hon, ac mae gweld y gwaith yn cael dylanwad positif ar ddenu ein talent gorau yn ôl i’r ranbarth yn peth bendigedig. Hefyd mae’n hyfryd gweld siaradwyr Cymraeg yn dod nol i’r ranbarth, gan rydyn ni eisoes yn gwybod am brinder bobl hefo’r sgiliau yna yn y sector. 

“Mae’n hen stori bod ardaloedd gwledig fel Môn, Gwynedd a Chonwy yn colli pobl ifanc wrth iddynt symud i ffwrdd ar gyfer addysg uwch a swyddi – ond ein bwriad gyda’r ymgyrch yma oedd ceisio newid y gred gyffredin nad oes swyddi a chyfleusterau yma a dangos bod cyfleodd ar gael a hwyluso’r ffordd i bobl ddychwelyd.

“Gyda’n pobl ifanc yn aros draw mae’n golygu bod gogledd Cymru yn cael ei hamddifadu o dalent a sgiliau a hynny ar adeg pan mae eu gwir angen. Roedden ni’n teimlo felly bod yr amser yn iawn am ymgyrch fel hyn, ac mae’r effaith mae wedi cael hyd yn hyn yn amlwg wedi bod yn bositif.”

Ychwanegodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru: 

“Un o’n prif amcanion ni fel Bwrdd Uchelgais ydy i gadw pobl ifanc yng Ngogledd Cymru.  Trwy brosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru, rydym yn anelu i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau yn ein hardal a denu unigolion i aros yma i fyw a gweithio.

“Mae wedi bod yn wych clywed straeon unigolion yn dod yn ôl i Ogledd Cymru drwy’r ymgyrch yma, ac rwyf yn gobeithio y cawn weld mwy o hyn yn y blynyddoedd i ddod.”

Bydd M-SParc a’r partneriaid yn parhau gyda’r ymgyrch ac mae gwahoddiad i unrhyw un sydd a diddordeb “dod yn ôl” i fynd ar wefan M-SParc i ddysgu mwy.