Ein gweledigaeth yw bod Gogledd Cymru yn rhanbarth lle mae’r bobl, ac yn benodol eu sgiliau a’u galluoedd, yn allweddol i ddatblygiad economaidd a lles.

 

 

 

 

Ein blaenoriaethau:

  • Galluogi a Grymuso Cyflogwyr

  • Galluogi a Grymuso Unigolion

  • Sut y darperir cefnogaeth a sefydlu’r cysylltiadau

Beth rydym yn canolbwyntio arno

Fel un o bedwar Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru, rydym yn cynhyrchu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y Farchnad Lafur. Gwneir hyn drwy ymgysylltu â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid allweddol i ddeall a datrys bylchau sgiliau ar lefel ranbarthol a lleol. Fe fyddem wedyn yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth sgiliau, sydd yn seiliedig ar fewnwelediad gan gyflogwyr.

Gweithio gyda'r Cynllun Twf

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid prosiectau i egluro gofynion sgiliau buddsoddiad y Cynllun Twf. Unwaith y bydd y rhain wedi’u nodi, rydym yn casglu'r wybodaeth hon ac yn cysylltu â’n darparwyr lleol a Llywodraeth Cymru i lobïo am newidiadau yn y ddarpariaeth. Mae ein gwaith gyda’r Cynllun Twf yn hanfodol i sicrhau bod yna gyflenwadau talent addas yn y rhanbarth mewn ymateb i swyddi a grëwyd fel canlyniadau’r prosiectau.