Cronfa Ynni Glân
Datgloi Cyllid ar gyfer Eich Prosiect Ynni Glân - Buddsoddwch mewn prosiectau ynni glân a datgarboneiddio i ostwng costau, gwella effeithlonrwydd a datgloi cyfleoedd newydd.
Nod y Gronfa Ynni Glân gwerth £24.6m, yw i gefnogi prosiectau ynni glân yn y Gogledd. Mi fydd yn grymuso busnesau a sefydliadau gwirfoddol i greu dyfodol cynaliadwy, cyflawni buddsoddiad o £100m yn y rhanbarth, creu 150 o swyddi newydd, a thorri hyd at cyfwerth 125,000 tunnell o garbon deuocsid (CO2e).
Mae'r gronfa'n cynnwys dwy is-gronfa ar wahân, sy'n targedu'r sectorau preifat a gwirfoddol.
Prif Noddwr:
Rydym wedi penodi UMi a CGCG i helpu i lunio a chyflenwi Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru.
Mae rhagor o fanylion a dolenni i wneud cais wedi'u nodi isod.
Gwahoddir ceisiadau gan y sefydliadau canlynol ar gyfer prosiectau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru:
- Busnesau neu sefydliadau sector preifat sy'n gweithredu yn y rhanbarth
- Sefydliadau gwirfoddol, elusennau, a phrosiectau dan arweiniad y gymuned
- Sefydliadau eraill sydd wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni
- Cynhyrchu ynni adnewyddadwy a seilwaith
- Datrysiadau ynni clyfar gan gynnwys storio
- Effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio ac ôl-ffitio
- Cyfleoedd gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi
- Mynediad at gymorth ariannol trwy gyllid wedi'i deilwra ar gyfer amrywiaeth o brosiectau
- Effeithlonrwydd ynni gwell a chostau is
- Datgloi cyfleoedd newydd yn yr economi werdd
- Perchnogaeth leol o gynhyrchu ynni glân
Targedau Buddsoddi
£25m
Cynllun Twf£2m
Sector Cyhoeddus Arall£73m
Sector Breifat£100m
Cyfanswm BuddsoddiadPa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?
Prif Aelodau
-
Hedd Vaughan-Evans Pennaeth Gweithrediadau
-
Meghan Davies Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net