Mae Rhaglen Ddigidol Uchelgais Gogledd Cymru yn targedu buddsoddiad mewn cysylltedd digidol fel rhan o'r blaenoriaethau strategol ar draws y rhanbarth.

 

Mae'r Rhaglen yn cyfrannu at weithgareddau ehangach o dan arweiniad y sector cyhoeddus a gweithredwyr rhwydweithiau preifat i ymestyn ac uwchraddio cysylltedd 'sefydlog' (er enghraifft band eang ffeibr) a rhwydweithiau di-wifr a symudol megis 4G a 5G.  Wrth i dechnoleg esblygu'n barhaus a newidiadau yn y galw gan gwsmeriaid, bydd yr angen am fuddsoddiad parhaus yng Ngogledd Cymru ac ar draws y DU yn parhau. Isod, rhestrir y prif fentrau cyfredol o dan arweiniad y sector cyhoeddus. 

Rhaglenni eraill sy'n buddsoddi mewn cysylltedd digidol

Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) yn cyflwyno band eang symudol i gymunedau gwledig ar draws y DU. Datblygwyd y rhwydwaith SRN gan bedwar gweithredwr rhwydwaith symudol y DU a Llywodraeth y DU er mwyn darparu gwasanaeth 4G i 95% o'r DU. Mae'r gweithredwyr yn disgwyl i hyn ymestyn y gwasanaeth symudol i 280,000 eiddo ychwanegol ac i deithwyr ceir ar hyd 16,000km ychwanegol o ffyrdd yn y DU, gan roi hwb i gynhyrchiant a buddsoddiad mewn ardaloedd gwledig.   

Yng Nghymru, bydd SRN yn gyfrifol am gynyddu'r gwasanaeth 4G gan y pedwar gweithredwr o 60% i leiafswm o 80%, ac yn cynyddu'r ddarpariaeth sydd ar gael gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith i 95% er mwyn arwain at ffyniant i fusnesau a chymunedau gwledig.  

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y rhaglen SRN gan gynnwys amserlen a'r gwelliannau arfaethedig i'r rhwydwaith fesul rhanbarth yma. Yng Ngogledd Cymru, mae'r rhaglen SRN yn darogan  

  • cynnydd yn y gwasanaeth 4G gan yr holl weithredwyr rhwydwaith symudol o 64% i 83%
  • cynnydd yn y gwasanaeth 4G gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol o 93% i 98%

 

Prosiect Gigabit yw prif raglen £5 biliwn llywodraeth y DU i alluogi cymunedau sy'n anodd eu cyrraedd i gael mynediad at fand eang gigabit wedi'i ddarparu drwy Building Digital UK (BDUK) 

Mae'r rhaglen yn targedu cartrefi a busnesau nad ydynt yn rhan o gynlluniau'r cyflenwyr band eang, gan gyrraedd rhannau o'r DU a fyddai o bosib yn colli allan ar gael y cysylltedd digidol angenrheidiol fel arall. Bydd y cysylltiadau cyflym a dibynadwy drwy'r Prosiect Gigabit yn bennaf yn gwasanaethu cymunedau gwledig ac anghysbell ar draws y DU, yn ogystal â mynd i'r afael â phocedi o gysylltedd gwael mewn ardaloedd trefol. 

Gyda'r band eang cyflymaf ni fydd cartrefi bellach yn cael trafferth gyda lled band gwael, bydd yn galluogi i bobl fyw a gweithio'n fwy hyblyg, gall busnesau ddod yn fwy cynhyrchiol, a daw gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn fwy hygyrch. 

Yng Ngogledd Cymru mae BDUK yn paratoi ymarferion caffael rhanbarthol i gyflwyno band eang gigabit a chyhoeddir diweddariadau yma 

Mae Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU wedi ymgynghori ar ddulliau o wella gwasanaethau band eang i ardaloedd gwledig ac anghysbell yn y DU sy'n annhebygol o gael budd uniongyrchol o'r gweithgaredd sylweddol ar draws y diwydiant telathrebu i gyflwyno gwasanaethau band eang gigabit.  Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ym mis Tachwedd 2023. Ceir manylion am yr ymgynghoriad yma a chyhoeddir canlyniad yr adborth cyhoeddus ar ôl dadansoddi'r ymatebion. 

Mae'r Swyddfa Gartref yn arwain ar raglen traws-lywodraethol i gyflwyno system cyfathrebu hanfodol y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN) newydd. Bydd y system yn disodli'r gwasanaeth Airwave cyfredol a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a bydd yn trawsnewid y dull gweithredu.  

Cefnogi’r Gwasanaethau Brys  

Bydd ESN yn darparu cyfathrebu diogel llais, fideo a data ar draws y rhwydwaith 4G gan roi mynediad ar unwaith i ymatebwyr cyntaf at ddata, delweddau a gwybodaeth i achub bywydau mewn sefyllfaoedd byw ac argyfyngau rheng-flaen.  

Bydd y buddsoddiad ESN hefyd yn cyflwyno gwelliannau i'r gwasanaeth 4G, yn galluogi gwneud galwadau 999 o unrhyw ffôn symudol 4G yn rhai o rannau mwyaf pellennig a gwledig Prydain lle nad oedd hynny'n bosib yn y gorffennol. 

Bydd technoleg symudol hanfodol ESN yn golygu rhoi blaenoriaeth i gyfathrebu rhwng y gwasanaethau brys dros draffig arall y rhwydwaith, hyd yn oed ar adegau brig mewn lleoliadau trefol prysur. Felly, bydd y gwasanaethau brys ac ymatebwyr cyntaf eraill yn gallu rhannu data hanfodol, gwybodaeth ac arbenigedd yn gyflym ac yn ddiogel o'r rheng flaen ar yr adeg fwyaf hanfodol. 

Mae'r Gwasanaeth Ardal Estynedig (EAS) yn rhan hanfodol o'r ESN fydd yn sicrhau bod ESN yn cyrraedd rhai o ardaloedd mwyaf gwledig a phellennig Prydain.  

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN) a'r Gwasanaeth Ardal Estynedig (EAS) ar gael yma. 

Cefnogaeth i wella eich band eang

Mae gan bob cartref a busnes yn y DU hawl cyfreithiol i ofyn am gysylltiad band eang priodol a fforddiadwy.  

Os nad yw eich cyflymder lawrlwytho o leiaf 10 megabit yr eiliad (Mbits/s) a chyflymder uwchlwytho o leiaf 1Mbit/s (sef diffiniad Ofcom o 'gysylltiad digonol’), gallwch ofyn am uwchraddio'r cysylltiad. Gallwch gyflwyno'r cais i BT a nid oes angen i chi fod yn gwsmer BT i wneud cais.  

Mae rhagor o wybodaeth am USO ar gael yma.

Mae'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn darparu grantiau i ariannu neu ran-ariannu'r costau o osod cysylltiadau band eang newydd i drigolion unigol, busnesau a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru (nid yw'r grant yn cynnwys costau rhedeg).  

Mae swm y cyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:  

  • £400 ar gyfer 10Mbps ac uwch 
  • £800 ar gyfer 30Mbps ac uwch 

Mae datrysiadau i wella band eang yn cynnwys defnyddio band eang 4G a band eang lloeren. 

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun Talebau ABC, y meini prawf i fod yn gymwys ac amodau'r cynllun ar gael yma

 

Deall y cysylltedd yn eich ardal

Mae teclyn gwirio gwasanaethau symudol a band eang yn eich galluogi i 

Mae Ofcom, y rheoleiddiwr ar gyfer y gwasanaethau cyfathrebu, yn adrodd ar ddarpariaeth a pherfformiad rhwydweithiau band eang sefydlog ar draws y DU yn ei adroddiadau Cysylltu'r Gwledydd blynyddol. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld yr adroddiad Cysylltu'r Gwledydd ac adroddiadau seilwaith, cliciwch yma. 

Mae Ofcom yn rhoi cyngor i helpu defnyddwyr i gael y gorau o'u ffonau a band eang, megis ar fand eang rhatach a phecynnau ffôn (tariffau cymdeithasol), problemau band eang a llinellau sefydlog a galwadau a negeseuon sgam. 

Cyngor i ddefnyddwyr 

Os yw cyflymder eich band eang yn eich arafu, ni fu erioed yn symlach newid i ddarparwr arall a fydd yn gwarantu cyflymder eich rhyngrwyd. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn arbed arian. 

Mae Cod Ymarfer Cyflymder Band Eang Ofcom yn golygu y dylech gael gwybodaeth glir am gyflymderau pan fyddwch yn prynu gwasanaeth band eang. 

Os nad yw eich gwasanaeth yn darparu’r cyflymderau a addawyd i chi gan eich darparwr, cysylltwch â nhw. Os yw’r broblem ar eu rhwydwaith ac na allant ei thrwsio o fewn 30 diwrnod, rhaid iddynt adael i chi adael eich contract heb orfod talu ffi gadael yn gynnar.  

 

Ymwadiad: Gall Uchelgais Gogledd Cymru ddarparu cynnwys trydydd parti, neu ddolenni i wefannau trydydd parti fel gwasanaeth i'r rhai sydd â diddordeb yn y wybodaeth hon. Nid yw Uchelgais Gogledd Cymru yn monitro, cymeradwyo nac â rheolaeth dros unrhyw gynnwys trydydd parti na'r gwefannau trydydd parti a chynnwys dolenni i gynnwys trydydd parti.