Mae Is-bwyllgor Llesiant Strategol Gogledd Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol yn ymwneud â mentrau datblygu economaidd yn y rhanbarth. Mae'n cymryd trosolwg o gymeradwyaeth yr Achosion Busnes Amlinellol (OBCs) ac Achosion Busnes Llawn (FBCs) i brosiectau ym mhortffolio'r Cynllun Twf, gan sicrhau bod y mentrau arfaethedig yn cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol ar gyfer cyllid. Yn ogystal, mae'r is-bwyllgor yn cadw'r awdurdod i gymeradwyo cytundebau ariannu ac amrywiadau iddynt lle bo hynny'n angenrheidiol.
Mae'r is-bwyllgor yn cynnwys aelodau gyda phleidlais, yn cynnwys chwe Arweinydd Awdurdodau Lleol, ynghyd ag aelodau cyfetholedig heb bleidlais o gyrff ymgynghorol allweddol, megis cynrychiolwyr o'r sector preifat, colegau rhanbarthol, prifysgolion ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r grŵp hwn yn chwarae rhan allweddol i fonitro ac arwain y strategaeth economaidd i Ogledd Cymru, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n effeithiol er dibenion llesiant economaidd y rhanbarth.
Arweinwyr
-
Cyng. Mark Pritchard Cadeirydd / Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Cyng. Charlie McCoubrey Is-Gadeirydd / Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Cyng. Jason McLellan Arweinydd, Cyngor Sir Ddinbych
-
Cyng. Gary Pritchard Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn
-
Cyng. Dave Hughes Arweinydd, Cyngor Sir y Fflint
-
Cyng. Nia Jeffreys Arweinydd, Cyngor Gwynedd
Ymgynghorwyr
-
Yr Athro Edmund Burke Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
-
Yana Wiilliams Prif Weithredwr, Coleg Cambria
-
Yr Athro Joe Yates Is-Ganghellor, Prifysgol Wrecsam
-
Aled Jones-Griffith Prif Weithredwr, Grŵp Llandrillo Menai
Prif Weithredwyr
-
Graham Boase Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ddinbych
-
Neal Cockerton Prif Weithredwr, Cyngor Sir y Fflint
-
Dafydd Gibbard Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd
-
Dylan Williams Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn
-
Rhun ap Gareth Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Alwyn Jones Prif Weithredwr Dros dro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam