Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio cronfa newydd gwerth £18.8 miliwn i gefnogi busnesau yn y rhanbarth i uwchraddio eu systemau technoleg ddi-wifr.
Bydd y Gronfa Grant Technoleg Ddi-wifr Uwch yn rhedeg tan Mawrth 2030 ar gyfer busnesau sydd â phrosiectau wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Bydd cyllid ar gyfer hyd at 50% o gostau prosiect cymwys yn cael ei ddyrannu, gyda grantiau unigol rhwng £20,000 a £2 filiwn ar gael.
Mae technoleg ddi-wifr uwch yn cynnwys y Rhyngrwyd Pethau (IoT), 5G, Wi-Fi a systemau cyfathrebu lloeren diweddaraf, pob un ohonynt yn helpu busnesau i wella eu cysylltedd, awtomeiddio prosesau a gweithredu'n fwy effeithlon. Gall y technolegau hyn gefnogi gweithgareddau fel monitro o bell, rhannu data a gweithrediadau doethach ar draws ystod eang o ddiwydiannau. I fusnes ffermio yng Nghonwy a gymerodd ran mewn cynllun peilot gydag Uchelgais Gogledd Cymru, arweiniodd gosod synwyryddion LoRaWAN i fonitro'r defnydd o ddŵr at arbed tua £6,000 o fewn y misoedd cyntaf – gan ddangos y llwyddiannau posib a ddaw yn syth yn sgil technolegau di-wifr.
Yn ogystal â bod wedi'u lleoli yn y rhanbarth, bydd angen i fusnesau ddangos bod ganddynt y gallu i ddefnyddio datrysiadau di-wifr ar raddfa ganolig i fawr. Bydd angen iddynt hefyd ddangos sut y byddai'r buddsoddiad yn cefnogi deilliannau fel creu swyddi ac yn denu buddsoddiad ychwanegol i'r rhanbarth ehangach.
Croesawodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru, lansiad y cynllun grant. Meddai:
"Mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau uwchraddio neu wella eu technoleg ddi-wifr a all chwyldroi'r ffordd y mae busnesau'n gweithredu trwy ddarparu cysylltedd cyflymach, mwy dibynadwy a mwy diogel. Mae cysylltedd digidol da yn sylfaenol i lwyddiant busnes a darparu gwasanaethau yn effeithlon – gan arwain at fwy o gynhyrchedd a gwytnwch yn ogystal â bod yn ysgogydd gwych ar gyfer arloesi."
Mae'r prosiect Di-wifr Uwch yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, a gyflawnir gan Uchelgais Gogledd Cymru ac a ariennir ar y cyd gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Meddai'r Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
“Mae technolegau diwifr uwch yn allweddol i ryddhau potensial cynhyrchiant a sbarduno twf economaidd. Bydd y cyllid sylweddol hwn yn grymuso busnesau yng Ngogledd Cymru i foderneiddio eu gweithrediadau, denu rhagor o fuddsoddiad a chreu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ledled y rhanbarth.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
“Mae hybu mentergarwch yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth y DU ac rwy'n falch bod ein buddsoddiad i Gynllun Twf Gogledd Cymru yn helpu i ddarparu grantiau i alluogi busnesau i wella eu technoleg a chynyddu eu cynhyrchiant.
“Mae’r cynllun hwn yn darparu cefnogaeth ymarferol i fusnesau ar draws Gogledd Cymru, gan eu galluogi i dyfu, gwella profiad cwsmeriaid, a chreu mwy o swyddi a chyfleoedd.”
Ar hyn o bryd, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn awyddus i siarad â busnesau o bob diwydiant i archwilio sut y gallai'r cyllid hwn gefnogi eu cynlluniau. Anogir sgyrsiau cynnar i helpu i sicrhau bod prosiectau'n gymwys ac i gefnogi busnesau i ddatblygu ceisiadau cryf. Mae'r cynllun hefyd ar gael i sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gyda cheisiadau ar y cyd yn cael eu hannog.
Rhagor o wybodaeth
Mae mwy o fanylion – gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a chanllawiau ymgeisio, ynghyd â gwybodaeth am ymuno â gweminar friffio a gynhelir am 10.30am ar 14 Gorffennaf 2026, ar gael ar ein tudalen Cronfa Grant Technoleg Di-wifr Uwch.