Ynni Lleol Blaengar
Nod y prosiect hwn yw cefnogi'r cynlluniau ynni ledled Gogledd Cymru sy'n cyfrannu tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy, datgarboneiddio sydd ag elfen o berchnogaeth leol. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau buddsoddiad preifat a chymunedol mewn prosiectau ynni newydd.
Byddem yn cynnig lansio Cronfa Ynni Glân yn 2024. Caiff rhagor o fanylion eu cadarnhau yn y misoedd nesaf.
Mae Perchnogaeth leol yn golygu asedau sy'n eiddo i randdeiliaid yn gweithredu ac wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru, gall rhain fod yn unigolion, cymunedau, busnesau neu sefydliadau eraill.
Prif Noddwr:
Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi penodi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ac UMi, yn dilyn proses gaffael gystadleuol, i baratoi a defnyddio ei Gronfa Ynni Glân a gaiff ei lansio y flwyddyn nesaf.
Bydd y gronfa yn cynnwys dwy is-gronfa, gyda CGGC yn gweithio ar y cyd ag Ynni Cymunedol Cymru ar is-gronfa'r sector gwirfoddol; ac UMi yn arwain yr is-gronfa sy'n targedu'r sector preifat.
Targedau Buddsoddi
£25m
Cynllun Twf£2m
Sector Cyhoeddus Arall£75m
Sector Breifat£102m
Cyfanswm BuddsoddiadPa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?
Prif Aelodau
-
Geraint Edwards Pennaeth Gwasanaeth (Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Sandra Sharp Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net