Mae'r Cynllun Twf yn gytundeb a fydd yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru er mwyn cynhyrchu dros 4000 o swyddi newydd a chynyddu GVA o £2.4 biliwn.
Wedi'i lofnodi ym mis Rhagfyr 2020, mae'r cytundeb yn sicrhau cyllid o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £120 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf.
Bydd cyllid y Llywodraeth yn cael ei dderbyn yn flynyddol dros y 15 mlynedd nesaf (erbyn 2036) wrth i brosiectau gael cymeradwyaeth Achos Busnes Llawn. Bydd y sector preifat a chyhoeddus yn cydweithio i ddenu cyllid ychwanegol a fydd yn gwneud cyfanswm o £1 biliwn.
Drwy gyflwyno pum rhaglen y Cynllun Twf erbyn 2036, bydd ein porftolio yn:
-
adeiladu ar ein cryfderau rhanbarthol ym maes gweithgynhyrchu ac ynni carbon isel
-
targedu arloesedd digidol a seilwaith i gysylltu'r rhanbarth yn well
-
buddsoddi mewn safleoedd ac adeiladau allweddol ar gyfer y farchnad datblygwyr
-
galluogi arloesi i hybu cynhyrchiant
-
cefnogi ein diwydiannau allweddol mewn twristiaeth ac amaethyddiaeth i ddatblygu ar gyfer y dyfodol
Nod
- Adeiladu economi fwy bywiog, cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru.
- Adeiladu ar ein cryfderau, hybu cynhyrchiant wrth fynd i'r afael â heriau tymor hir a rhwystrau economaidd i sicrhau twf cynhwysol.
- Hyrwyddo twf mewn modd graddadwy, cynhwysol a chynaliadwy, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Budd
- Twf mewn ffyniant rhanbarthol: gwella cynhyrchedd, mewnfuddsoddiad a chreu swyddi newydd.
- Creu swyddi gwell: trwy ymyraethau wedi ei dargedu mewn sectorau gwerth uchel.
- Gweithlu mwy medrus: drwy gefnogi sgiliau a mentrau hyfforddi ac ymyraethau sy'n targedu sectorau gwerth uchel.
- Gwella safon byw: twf cynhwysol sy'n darparu cyfleoedd, yn lleihau tlodi, anghydraddoldeb ac amddifadedd.
Amcanion
4,200
o swyddi newydd£2.4bn
o GVA ychwanegol netTargedau Buddsoddiad
£240m
Llywodraethau£179m
Sector Cyhoeddus Arall£721m
Sector Breifat>£1bn
Cyfanswm BuddsoddiadRhaglenni
Mae rhaglenni'r Cynllun Twf wedi'u datblygu mewn ymateb i heriau'r rhanbarth, drwy ddatgloi cyfleoedd ac adeiladu ar ein cryfderau. Maent yn cyd-fynd â'n uchelgais i Ogledd Cymru.