Mae'r Cynllun Twf yn gytundeb a fydd yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru.

Wedi'i lofnodi ym mis Rhagfyr 2020, mae'r cytundeb yn sicrhau cyllid o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £120 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf.

Derbynnir cyllid y Llywodraeth dros y 10-15 mlynedd nesaf wrth i Achos Busnes Llawn y brosiectau gael cymeradwyaeth.  Bydd y sector cyhoeddus a preifat yn cyd-weithio i ddenu'r buddsoddiad ychwanegol a fydd yn gyfanswm o £1 biliwn.

Nod

  • Adeiladu economi fwy bywiog, cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru.
  • Adeiladu ar ein cryfderau, hybu cynhyrchiant wrth fynd i'r afael â heriau tymor hir a rhwystrau economaidd i sicrhau twf cynhwysol.
  • Hyrwyddo twf mewn modd graddadwy, cynhwysol a chynaliadwy, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Budd

  • Twf mewn ffyniant rhanbarthol: gwella cynhyrchedd, mewnfuddsoddiad a chreu swyddi newydd.
  • Creu swyddi gwell: trwy ymyraethau wedi ei dargedu mewn sectorau gwerth uchel.
  • Gweithlu mwy medrus: drwy gefnogi sgiliau a mentrau hyfforddi ac ymyraethau sy'n targedu sectorau gwerth uchel.
  • Gwella safon byw: twf cynhwysol sy'n darparu cyfleoedd, yn lleihau tlodi, anghydraddoldeb ac amddifadedd.

Amcanion

4,200

o swyddi newydd

£2.4bn

o GVA ychwanegol net

Targedau Buddsoddiad

£240m

Llywodraethau

£179m

Sector Cyhoeddus Arall

£721m

Sector Breifat

>£1bn

Cyfanswm Buddsoddiad

Rhaglenni

Mae rhaglenni'r Cynllun Twf wedi'u datblygu mewn ymateb i heriau'r rhanbarth, drwy ddatgloi cyfleoedd ac adeiladu ar ein cryfderau. Maent yn cyd-fynd â'n uchelgais i Ogledd Cymru.

Ariennir £240m o Fuddsoddiad Cynllun Twf gan