Prosiect:

Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig (4G+)

Trosolwg:

Bydd y prosiect hwn yn gwella cysylltedd symudol 4G mewn safleoedd economaidd allweddol ar draws y rhanbarth, gan dargedu llwybrau trafnidiaeth, canolfannau busnes a thwristiaeth, wrth gefnogi ymhellach y gwaith o gyflwyno darpariaeth rhwydwaith 5G yn yr ardaloedd hyn.

Mae’r prosiect yn dod â sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r diwydiant telathrebu ynghyd er mwyn cyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith symudol newydd. Drwy Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru, mae’n helpu i leihau rhwystrau, gwella cydlynu, a denu buddsoddiad i rwydweithiau digidol y rhanbarth.

Mae’r Prosiect 4G+ hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno seilwaith mewn lleoliadau blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys galluogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i sicrhau bod eu hasedau ar gael ar gyfer defnyddio seilwaith symudol drwy sefydlu Cytundebau Mynediad Agored, a darparu cynlluniau grant sector cyhoeddus a diwydiant i ariannu uwchraddio a defnyddio seilwaith 4G a 5G.

Gyda’i gilydd, bydd y mesurau hyn yn gwella darpariaeth a dibynadwyedd mewn lleoliadau allweddol, gan helpu Gogledd Cymru i fod yn fwy cysylltiedig a chystadleuol, cefnogi twf economaidd a datgloi cyfleoedd newydd. Bydd y Prosiect 4G+ yn cael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2030.

Prif Noddwr:

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £9 miliwn o GYC ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 28 o swyddi newydd i'r rhanbarth

Gwella Cysylltedd

Darparu gwasanaeth 4G mewn lleoliadau allweddol a choridorau trafnidiaeth erbyn 2030

Targedau Buddsoddi

£6.17m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£2m

Sector Breifat

£8.17m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect 4G+ wedi cyrraedd?

Bydd y prosiect hwn yn gwella cysylltedd symudol 4G mewn safleoedd economaidd allweddol yn y rhanbarth, gan dargedu llwybrau trafnidiaeth, hwbiau busnes a thwristiaeth wrth gefnogi defnydd pellach o rwydwaith 5G yn yr ardaloedd hyn.

Cam01.
Pennu Cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i'r Is-Bwyllgor Lles Economaidd i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i'r Is-Bwyllgor Lles Economaidd i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam07.
Gweithedru a Monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Niall Waller Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio, Cyngor Sir y Fflint
  • Stuart Whitfield Rheolwr Rhaglen Ddigidol
  • Rebecca Reay Rheolwr Prosiect Cysylltedd Digidol