Heddiw (dydd Iau) mae'r ddwy lywodraeth ac aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ffurfiol i'r pum rhaglen sy'n ffurfio'r Cynllun Twf, sy'n yrrwr allweddol i'r Weledigaeth Twf gyffredinol ar gyfer y Gogledd.

 

Dan arweiniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe chyngor yn y rhanbarth, y ddwy brifysgol, y ddau goleg a'r sector preifat - mae'r rhaglenni wedi'u ffurfio o 14 prosiect sy'n ymwneud ag ynni carbon isel, arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, bwyd-amaeth a thwristiaeth, cysylltedd digidol a thir ac eiddo.

 

Mae'r ddwy lywodraeth wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses ac roeddent wedi ymrwymo £240m - £120m yr un - yn flaenorol i helpu i wireddu'r Cynllun Twf.

 

Er mwyn dathlu'r garreg filltir hon, mynychodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, gyfarfod rhithwir gyda'r Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a Mark Pritchard, cadeirydd ac is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais.

 

Diolchodd y Cynghorydd Siencyn i'r ddwy lywodraeth am eu cefnogaeth a'u harweiniad drwy gydol y siwrne o'r Cais Twf cychwynnol i'r pwynt hwn.

"Ers y dechrau'n deg, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gan ystyried datblygiad yr economi rhanbarthol a chynaliadwyedd mewn ffordd newydd," meddai.

"Bellach, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rhaglenni hyn yn adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi'u gosod gan wireddu buddsoddiad a newid cadarnhaol a hirhoedlog, yn benodol yn nhermau cyflogaeth ac amgylchedd glanach a gwyrddach.

"Mae'n destun balchder a chalondid i mi bod y Cynllun Twf wedi cael ei gymeradwyo ac mae'r gwaith go iawn yn dechrau'n awr - llongyfarchiadau a diolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan wrth ddod â ni i'r foment dyngedfennol hon."

Ychwanegodd Alwen Williams, y Cyfarwyddwr Portffolio: "Gyda'n gilydd, byddwn yn awr yn ceisio adeiladu economi cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer y rhanbarth hwn, fel enghraifft o arfer orau ar gyfer ardaloedd eraill o'r DU, o fod wedi dysgu o lwyddiannau rhanbarthau eraill.

"Rydym yn croesawu'r cyfrifoldeb sydd arnom i gyflawni'r pecyn hwn o raglenni trawsffurfiol ac rydym yn barod i fwrw iddi - er lles ein cymunedau, ein busnesau a Gogledd Cymru."

Caiff y rhaglenni eu rheoli gan y Swyddfa Portffolio, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno.

Eu prif amcan yw creu hyd at 3,800 o swyddi newydd erbyn 2036, cymorth i gynyddu'r economi o £2.2bn dros yr un cyfnod, a chyflawni cyfanswm o hyd at £1bn o fuddsoddiad.   

Ymhlith y prosiectau cyntaf i gychwyn yn 2021 yw cynllun ynni adnewyddadwy Morlais, oddi ar arfordir Môn, sydd werth £35m.

Yn y cyfamser, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod ledled y Gogledd mewn cysylltedd digidol, gyda safleoedd allweddol - yn cynnwys meddygfeydd, ysbytai a llyfrgelloedd - yn elwa o fand eang tra chyflym diolch i Raglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN) yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mewn partneriaeth â'r Bwrdd Uchelgais a'r Swyddfa Portffolio.

Gan ganmol y cynnydd sydd wedi'i wneud, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae'n wych gweld cynllun twf economaidd cyffrous a thrawsffurfiol yn cael ei gyflawni ledled y Gogledd.

"Rydym am adfer i sefyllfa well yn sgil y pandemig a dod â swyddi a buddsoddiad i'n cymunedau, a dyna pam bod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo £120m i'r prosiect hwn.

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gyfle anhygoel i'r rhanbarth ac i economi ehangach Cymru. Gan weithio law yn llaw â llywodraeth leol a busnesau, byddwn yn sicrhau y bydd yn gwireddu llawn botensial y Gogledd."

 

Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru:  "Rwy'n falch o allu llofnodi'r cytundeb terfynol, gan roi sêl bendith i Gynllun Twf Gogledd Cymru, sydd â'r potensial i drawsffurfio economi'r rhanbarth.

 

"Ni allwn danbrisio'r heriau sy'n wynebu'r economi heddiw o ganlyniad i bandemig Covid-19. Bydd y Cynllun Twf yn rhan allweddol o adferiad y rhanbarth dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

 

"Wedi'i gefnogi gan £120m gan Lywodraeth Cymru, bellach mae gan yr holl bartneriaid ledled y rhanbarth gyfle i adeiladu ar yr hyn y maen nhw eisoes wedi'i gyflawni er mwyn cyflawni twf gwyrdd a chynaliadwy - mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i Ogledd Cymru."

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Twf dilynwch @northwaleseab (Saesneg) a @buegogleddcymru (Cymraeg) ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Deal Signing