Yn flynyddol mae tîm Uchelgais Gogledd Cymru yn dewis elusen ar gyfer y flwyddyn. Eleni ein elusen yw hosbis plant, Tŷ Gobaith. 

Rydym yn awyddus i gefnogi gwaith tîm yr hosbis trwy godi arian, a sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad, nid yn unig at les economaidd y rhanbarth, ond hefyd at les y gymuned yn ehangach.

I ddyddiad mae'r tîm wedi cymryd rhan mewn Dark Run sef 5k i deuluoedd yn annog pobl i redeg neu gerdded y pellter wrth iddi nosi, i gefnogi’r hosbis; gwerthu cacennau yn swyddfa Sarn Mynach; casglu dillad ac eitemau eraill ar gyfer gwerthu yn siopau'r elusen, a cwis gynhaliwyd yn M-SParc ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru a phartneriaid.

Dark Run
Dark Run
Dark Run
Sêl Gacennau
cwis elusen
cwis elusen