Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio fel partneriaeth i gyflawni ein huchelgais - gan nodi a darparu cyfleoedd i ddatblygu ein heconomi.

Ein Huchelgais

Bod yn hyderus a chydlynol, yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y rhanbarth.

Rydym am weld y rhanbarth yn datblygu mewn ffordd gynaliadwy, gyda chyfleoedd i bobl ennill sgiliau newydd ar gyfer y dyfodol a chael gyrfaoedd gwerth chweil. Rydym am weld busnesau'n tyfu a chymunedau'n ffynnu.

Byddwn yn gwneud hyn tra'n hyrwyddo ein iaith, ein diwylliant a'n treftadaeth ac yn unol â'r nodau llesiant i Gymru.

Y Bartneriaeth

Chwe awdurdod lleol: awdurdodau lleol Gogledd Cymru sy'n cynnwys cynghorau Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.

Dwy brifysgol: Prifysgol Bangor wedi'i lleoli yng Ngogledd-Orllewin Cymru a Phrifysgol Wrecsam sydd â champysau yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.

Dau goleg addysg bellach: Grŵp Llandrillo Menai sydd â  safleoedd ar draws Gogledd-Orllewin Cymru a Choleg Cambria sydd â safleoedd yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.

Creu Gogledd Cymru

Cysylltiedig
  • Gwella cysylltedd ac isadeiledd digidol 
  • Cryfhau cysylltedd strategol i drigolion a busnesau'r rhanbarth
Gwydn
  • Creu cyfleoedd gwaith gan godi lefelau cyflogaeth
  • Canolbwyntio ar gadw pobl ifanc yn Ogledd Cymru
Blaengar
  • Datblygu ac hyrwyddo prosiectau arloesol gyda gwerth uchel ym mhrif sectorau ein rhanbarth
  • Cryfhau cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi a gwella perfformiad yr economi
Cynaliadwy
  • Datblygu prosiectau sy'n cynhyrchu ychydig neu ddim carbon a chael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth
  • Sicrhau dyfodol hir dymor er budd cenedlaethau'r dyfodol

Partneriaid Uchelgais Gogledd Cymru