Ein Strwythur

Mae'r Bwrdd yn gyd-bwyllgor, a'r corff gwneud penderfyniadau sy'n gyfrifol am  arwain, rhoi cyfeiriad strategol a chyflawni'r Cynllun Twf. 

Darganfyddwch fwy am aelodau'r Bwrdd yma.

Mae'r grŵp yn darparu cyngor strategol a phroffesiynol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ym meysydd trafnidiaeth, sgiliau a chyflogaeth, datblygu economaidd, tai, defnydd tir cynllunio a digidol.

Mae'r aelodau hefyd yn gweithredu fel Bwrdd Portffolio i oruchwylio datblygiad, cydlynu a chyflawni rhaglenni'r Cynllun Twf a phrosiectau eraill Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn llwyddiannus.

Darganfyddwch fwy am aelodau'r Grŵp Gweithredol yma.

Rhoi cyngor a her strategol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad y sector preifat.

Darganfyddwch fwy am aelodau'r Bwrdd Cyflawni Busnes yma.

Mae'r partneriaeth yn dod a chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhan-ddeiliaid lleol allweddol ynghyd i gael gwell dealltwriaeth a datrys problemau o ran addasrwydd sgiliau yn lleol ac ar lefel rhanbarthol. Nod y partneriaeth yw adnabod anghenion sgiliau presennol ac i’r dyfodol, a defnyddio’r wybodaeth i siapio’r darpariaeth o addysg a hyfforddiant ôl-16.

Darganfyddwch fwy yma. 

Yn gyfrifol, ynghyd â phartneriaid allweddol, am gyflawni'r Cynllun Twf a gwarchod y weledigaeth economaidd ar gyfer y rhanbarth. Mae'r tîm yn angerddol dros Ogledd Cymru, yn rhoi pwyslais ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ac wedi ymrwymo i ddyfodol y rhanbarth.

Darganfyddwch fwy am aelodau'r Swyddfa Rheoli Portffolio yma.

Governance structure

Ein Partneriaid