Mae sicrhau bod Gogledd Cymru yn rhagori ym maes ynni carbon isel, wedi cymryd cam ymlaen, gyda chymeradwyaeth i’r achos busnes amlinellol ar gyfer Prosiect Egni, Prifysgol Bangor.  

Mae cymeradwyaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn paratoi'r ffordd ar gyfer menter sydd am geisio ailddiffinio deori busnes, cydweithio ym maes ymchwil, a hyrwyddo arloesedd carbon isel yn y rhanbarth. Bydd y prosiect yn darparu 1,500m2 o ofod busnes - a adeiledir o'r newydd - ar safle M-SParc yn Gaerwen, Ynys Môn, ynghyd â chymorth datblygu ar gyfer busnesau newydd yn y sector. Y nod yw hyrwyddo cydweithio a rhannu syniadau  rhwng y byd academaidd, diwydiant, ymchwilwyr  a pheirianwyr er mwyn rhoi Prifysgol Bangor, M-SParc a Gogledd Cymru ar y map o ran arloesi. 

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, sy'n ceisio gosod y rhanbarth fel lleoliad blaenllaw ar gyfer ynni carbon isel. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd gwerth uchel, dennu buddsoddiad i’r ardal, yn ogystal â chyfrannu at gyrraedd targedau sero-net. 

quotation graphic

Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yw aelod arweiniol Ynni Carbon Isel ar y Bwrdd Uchelgais, dywedodd:

“Mae cymeradwyo’r achos busnes amlinellol yn adlewyrchu ein hymroddiad i hyrwyddo arloesedd carbon isel yng Ngogledd Cymru. Gyda’r penderfyniad yma i gymeradwyo, gallwn symud ymlaen yn hyderus bod Egni ar y trywydd iawn i gael effaith gadarnhaol hir dymor. 

“Mae adnoddau naturiol ein rhanbarth yn ogystal â’r arbenigedd rydym wedi’i ddatblygu dros gyfnod, yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref i arwain yn y sector twf pwysig hwn, i greu swyddi newydd yn ogystal â lleihau allyriadau carbon. Mae'r prosiect yn cyd-fynd â'n targed i wella galluoedd y rhanbarth mewn ymchwil, dylunio ac arloesi yn y maes ynni carbon isel.” 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Michael Flanagan, Prif Swyddog Gweithredol Prifysgol Bangor ac arweinydd y cynllun Egni:

“Rydym yn falch o weld Egni yn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon ac yn gallu symud i’r cam nesaf. Mae'n brosiect pwysig sy'n ceisio mynd i'r afael â'r heriau mae arloeswyr yn wynebu wrth symud prosiect o syniadau mewn labordy i fasnacheiddio. 

“Yn ogystal ag ymyriadau wedi’u targedu a chymorth busnes cynhwysfawr gan y tîm yn M-SParc, byddwn hefyd yn datblygu gofod, dan arweiniad ein Sefydliad Dyfodol Niwclear, i ganiatáu arddangos prosesau ac offer ar raddfa beirianyddol a chynnal dadansoddiadau blaengar o ddeunyddiau. Drwy hyn rydym yn gobeithio ychwanegu at y momentwm o amgylch diwydiannau carbon isel yma yng Ngogledd Cymru.” 

 

quotation graphic

Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd, gall y prosiect symud ymlaen gyda’r cam caffael, a fydd yn cynnig cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi leol, a datblygu achos busnes llawn – y cam olaf cyn sicrhau cyllid y Cynllun Twf. 

Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf ac mae pob Achos Busnes Amlinellol yn cwmpasu cyfnod cynllunio’r prosiect ac yn nodi opsiynau sy’n sicrhau gwerth cyhoeddus yn dilyn gwerthusiadau manwl.  

Mae’r prosiect eisoes wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’r cynnig hefyd yn rhan o’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer datblygu Porthladd Rhydd Môn.