Gan: Angharad Evans

Darn barn gan Angharad Elin Evans, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru ymgyrch cyfryngau cymdeithasol  o'r  enw  'Pob Cam'. Ein nod oedd i profi, pa bynnag lwybr rydych chi'n dewis ei ddilyn yn eich addysg neu'ch gyrfa, nid oes llwybr anghywir – a credaf fe brofon ni hynny!

 

Er mai dyma oedd ein tro cyntaf i ymgyrch o'r fath, roedd yr ymateb a gawsom yn wych. Roedd yn galonogol iawn gweld faint o unigolion oedd yn barod i rannu mewnwelediad i'w bywydau gwaith waeth pa mor hir neu fyr fu eu gyrfaoedd.

 

Gan rannu amrywiaeth o straeon o bob cefndir, roedd yr ymgyrch yn llawn dathliadau o yrfaoedd llwyddiannus a straeon ysbrydoledig gan ein partneriaid gan gynnwys Adran Gwaith a Phensiynau, ‘Federation of Small Businesses’ a M-SParc. Roeddem hyd yn oed yn ddigon ffodus i glywed gan gyflwynwyr 'Heno' Owain Jones ac Elin Fflur!

 

Mae'r straeon a rannwyd wedi dangos nad oes unrhyw yrfa'n llinol, gyda'r newidiadau gyrfa mwyaf yn dod o ganlyniad i fanteisio ar gyfleoedd a gwthio eich hun allan o'ch parth cysur. Roedd ymgyrch 'Pob Cam' yn gyfle gwych i ddod â'r straeon hyn at ei gilydd gyda'r nod o normaleiddio newid ein gyrfa neu ddychwelyd i addysg ar unrhywoedran.

 

Daeth stori nodedig gan Sarah Schofield a ddechreuodd ei thaith ym myd gwaith 'gwerthu donuts i ddod yn Gyfarwyddwr 'Adra' yn ddiweddarach. Mae taith Sarah yn dangos,  ni waeth ble y dechreuwn ein taith, nad yw'n pennu ein gyrfa ddiwedd, cyn belled â'n bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu a thyfu o'r profiadau a gawn

 

Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o unigolion yn dod at ei gilydd i eirioli dros groesawu ein llwybrau gyrfa, yn enwedig economisy'n gwella ar ôl COVID, roedd yn teimlo'n briodol gallu myfyrio ar ein gyrfaoedd hyd yn hyn drwy ein hymgyrch 'Pob Cam'. Roeddem am agor sgwrs a oedd yn dathlu cyflawniadau a cherrig milltir unigol pawb wrth i bob cam gyfrif  a chredaf ein bod wedi cyflawni hyn gan fod rhannu straeon a gyrfaoedd mor amrywiol.

  

Ar ôl wythnos lwyddiannus  o glywed cynifer o straeon ysbrydoledig, rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol, gan ganmol pwysigrwydd rhannu ein hanes gwaith i atgoffa unigolion nad oes llwybr anghywir a bod pob cam yn cyfrif ar gyfer ein dyfodol. Rydym yn gobeithio ein bod wedi llwyddo i ysbrydoli unigolion sy'n ansicr o'r llwybr y maent am ei ddilyn. Gobeithio y gallwn ddod â'r ymgyrch yn ôl eto'r flwyddyn nesaf gyda'r nod o fod yn hydnod gwell!