Gan: Pryderi ap Rhisiart, M-Sparc

Mae dros chwe miliwn o bobl ledled y DU yn gweithio heddiw mewn swyddi sy'n annhebygol o fodoli erbyn 2030.  Gellir ei ystyried yn fygythiad i'n rhanbarth ac i bobl ifanc ond, gallai hefyd fod yn gyfle os byddwn yn datblygu'r sgiliau cywir heddiw. 

Mae'r symudiad cyflym at economi ddigidol a datblygiadau mewn technoleg yn golygu y bydd nifer o swyddi yn esblygu'n ddramatig neu'n diflannu'n gyfan gwbl. Ers 2019, mae gan 46% o swyddi yng Nghymru botensial uchel am newid drwy awtomeiddio a digideiddio.

Mae'n amlwg bod Covid wedi arwain at drawsffurfio sut a lle yr ydym yn gweithio ac mae wedi ein gorfodi ni i ddysgu sgiliau newydd dros nos. Er bod nifer o ragolygon adfer gwahanol i'w cael, yr hyn sy'n glir yw bod y pandemig wedi cyflymu'r daith tuag at drawsffurfio digidol. Gallai hyn olygu bod gweithwyr mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn y ras tuag at farchnad lafur ddigidol a gwyrddach.

Dywed arbenigwyr bod mwy i 'ddigideiddio' na chadw i fyny â'r dechnoleg ddiweddaraf – hyn fydd y gwahaniaeth rhwng pobl yn cyflawni eu potensial drwy gael swyddi o ansawdd a pheidio â meddu ar y sgiliau y mae ar gyflogwyr a busnesau eu hangen i ffynnu. Ar gyfer yr economi yn ei chyfanrwydd, bydd buddsoddi digidol a mabwysiadu digidol yn gyrru twf ac adferiad economaidd mewn economi ôl-Covid.

Beth yw ystyr 'sgiliau digidol'?

Bydd sgiliau digidol yn golygu pethau pur wahanol mewn gwahanol swyddi a busnesau.  Bydd meddyg angen sgiliau digidol gwahanol iawn i bensaer neu ddylunydd gwe.  Fodd bynnag, yr hyn sy'n dod yn fwyfwy amlwg yw bod elfen ddigidol gynyddol i'r mwyafrif o swyddi. Nid yw'r rhain yn swyddi niche sy'n cael eu gwneud gan ddiwydiannau arbenigol sy'n gweithio mewn labordai neu mewn ystafelloedd sy'n llawn technoleg, ond maent mewn sectorau megis iechyd, adeiladu, addysg, teledu, amaeth a thwristiaeth.

Yng Ngogledd Cymru, yr hyn sy'n bryderus yw nad oes modd llenwi'r swyddi hyn bob amser ac nad yw'r sgiliau sydd yma yn cyd-fynd ag anghenion y rhanbarth. Mae angen i'n rhanbarth gael gwybodaeth a strwythurau yn eu lle fydd yn medru ymateb, a chyflenwi'r galw, am lafur digidol yn yr economi hon sydd ar ffurf newydd ac sy'n newid yn gyflym. Nid yw hwn yn fater sy'n unigryw i Ogledd Cymru; adroddodd y Learning and Work Institute bod gan 1 ymhob 4 cwmni yn y DU fwlch sgiliau digidol yn eu gweithlu.

Ysbrydoli Llwybrau Gyrfa

Wrth i ni wynebu'r sefyllfa hon, mae'n hanfodol ein bod yn mynd ati i dargedu pobl ifanc o oedran cynnar – gan eu paratoi i fod yn barod i fynd i'r gweithle gyda'r sgiliau cywir. Mae ffocws addysg wedi bod ar sgiliau llythrennedd a rhifedd ers cenedlaethau, sy'n golygu ein bod ar ei hôl hi ar sgiliau digidol. Mae'n bryd i'r sgiliau hyn gael eu hystyried yn rhai craidd os ydym am weld ein pobl ifanc yn cyflawni eu potensial.

Rydym yn cymryd yn ganiataol fod pobl ifanc yn gwybod pa mor bwysig yw sgiliau digidol a thechnoleg ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, ond mae ymchwil gan Lloyds Bank ac Ipsos MORI yn awgrymu nad ydynt.  Nid oes gan oddeutu 11.7 miliwn o bobl dros 15 oed y 'sgiliau digidol hanfodol' sydd eu hangen ar gyfer bywyd dydd-i-ddydd ar-lein ac maent yn cael anhawster defnyddio a throsglwyddo'r sgiliau digidol sydd ganddynt i'r gweithle.

Yn 2018, roedd 7,000 o bobl yn gyflogedig mewn gweithgareddau arbenigol technoleg uwch, rhaglennu cyfrifiadurol, ymgynghoriaeth a gweithgareddau perthnasol yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, disgwylir i'r nifer hwn gynyddu mewn economi ôl-Covid ar ôl i ni weld symudiad lle bydd bron pob rôl cyflogaeth yn mynd yn 'ddigidol' neu yn 'ddigidol' eisoes. Sgiliau digidol fydd y gyfres o sgiliau sylfaenol angenrheidiol fydd yn tanategu ein economi rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang, a rhagwelir twf o 6% yn y diwydiant rhwng 2019 a 2023.

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn rhagweld y bydd Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn arwain at gynnydd o 58 miliwn o swyddi yn fyd-eang. Maent yn awgrymu bod gwersi gwyddorau cyfrifiadurol mewn ysgolion yn fan cychwyn da – gan ymgyfarwyddo ag elfennau sylfaenol gwyddor data, dysgu drwy beiriant a rhaglennu o oedran iau. Mae'n hanfodol gwneud dysgu sgiliau digidol yn 'normal', yn yr un modd â sicrhau bod pynciau gwyddorau cyfrifiadurol academaidd cyfredol yn berthnasol ac yn gysylltiedig â realiti'r gweithle a'r diwydiant. Mae hyn yn parhau i fod yn her, ond rydym yn gweld arwyddion calonogol bod pethau yn newid.

Denu rhagor o ferched a genethod

Nid dyna ddiwedd yr heriau. Hefyd mae anghydraddoldebau rhywedd amlwg o ran hyfforddiant a chyflogaeth TGCh yn y sector digidol. Dim ond 17% o'r gweithlu technoleg sy'n fenywaidd. Yn 2020, ledled y DU, dim ond 11.5% o'r myfyrwyr Lefel A Cyfrifiadureg oedd yn enethod a dim ond 5% o'r swyddi arweinyddiaeth mewn technoleg sy'n cael eu gwneud gan ferched.

Mae'n ymddangos bod genethod yn aml yn cael eu dadrithio gan swyddi technolegol neu ddigidol – felly mae'n dasg i ni, y rhai sy'n gweithio yn y maes digidol, mewn sefydliadau addysgiadol a chyflogwyr, i wneud pynciau STEM yn fwy hygyrch a deniadol. Ymhob sector arall, rydym wedi gweld sut mae cydbwysedd tecach rhwng y rhyweddau yn fanteisiol i fusnes – mae'n rhaid i hyn gynnwys y sectorau digidol a thechnoleg hefyd.

Camau gweithredu cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi bod yn ymwybodol o'r materion hyn o ran sgiliau digidol ers blynyddoedd – felly beth ydym ni yn ei wneud am hyn nawr?

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais), drwy'r Cynllun Twf a phrosiectau cysylltiedig, yn cymryd camau cadarnhaol i ymdrin â rhai o'r prif faterion. Drwy sicrhau bod y partneriaid cywir ynghlwm a thrwy roi seilwaith yn ei le, mae datblygu'r sgiliau cywir yn flaenoriaeth ledled pob sector twf. Felly, nid yw popeth yn edrych mor ddu â hynny, a bydd y cwricwlwm addysg newydd i Gymru, gyda mwy o bwyslais ar bynciau STEM, yn bendant yn chwarae rhan mewn sicrhau bod y dyfodol yn edrych yn fwy disglair.

Mae rhan o weledigaeth y Bwrdd Uchelgais, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) ar gyfer Gogledd Cymru, wedi cael y dasg o fynd i'r afael â'r her o ddatblygu sgiliau digidol lleol drwy'r 'Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau Digidol'.  Mae'r rhain yn gyflogwyr lleol sy'n allweddol i helpu i adnabod bylchau sgiliau presennol ac yn y dyfodol ledled y rhanbarth mewn swyddi TG a thechnoleg gwerth uchel.  Mae'r grwpiau yn llwyfan i gyflogwyr leisio pryderon a phroblemau gyda'r nod o wneud y mwyaf o'u gwybodaeth a'u profiad ar draws amrediad eang o ddiwydiannau, a dod o hyd i ddatrysiadau arloesol.

Mae'r grŵp yn ymdrech tîm cyfan ac mae'r aelodau'n cael eu gyrru gan ddull sy'n golygu nad yw hon yn her lle bydd un datrysiad i bawb wrth i ni chwilio am ddatrysiadau cynaliadwy hirdymor i'r heriau hyn sy'n ein hwynebu.

Pryderi ap Rhisiart yw Rheolwr Gyfarwyddwr parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, M-Sparc ac ef yw cadeirydd Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Digidol yr RSP ar hyn o bryd. Mae'n rhannu ei weledigaeth ar gyfer datblygu sgiliau i'r dyfodol ac yn egluro ei fod yn benderfynol o yrru newid fydd yn golygu bod gennym ni'r sgiliau cywir yma yng ngogledd Cymru.

"Mae yna gyfleoedd ar gael ac mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf ohonynt – er budd yr economi ac o ran yr adferiad ar ôl Covid, ond yn bwysicach na dim, er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc. “

I wybod mwy am y diwydiant, mae Gŵyl Sgiliau Digidol yn cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru ar 22-27 Tachwedd. Manylion ar gael yn: https://tinyurl.com/DigitalSkillsFest