Gan: Sara Jones

 

Darn barn gan Sara Jones, Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol Uchelgais Gogledd Cymru

 

Nid oedd caffael yn rhywbeth yr oeddwn erioed wedi clywed amdano pan oeddwn yn iau,  awgrymodd neb y byddwn yn ei weld yn ddiddorol neu y byddwn yn gallu datblygu gyrfa mewn diwydiant o'r fath.

Fe weithiais yn y maes yma mewn camgymeriad.

Cyn hynny, gweithiais yn y sector gofal iechyd, fy rôl oedd rheoli contractau i sicrhau y cydymffurfiwyd â safonau a chefnogi'r gadwyn gyflenwi. Dysgais i Gaffael ar hap, ac fel maen nhw’n dweud, fe gliciodd pob dim yn ei le! Roeddwn wedi dod o hyd i'r hyn yr oeddwn yn ei garu ac rwyf wedi ei garu ers hynny.

 

Mae Busnesau Bach a Chanolig (SMEs) a’r rhai caiff eu harwain gan fenywod, yn chwarae rhan hanfodol mewn twf a datblygiad economaidd. Fodd bynnag, mae’r nifer o’r busnesau a arweinir gan fenywod sy'n llwyddiannus i dderbyn contractau caffael cyhoeddus yn isel iawn. Adroddodd Banc y Byd mai dim ond 1% o gronfeydd caffael cyhoeddus a chaiff eu gwobreuo i fusnesau sydd yn cael eu harwain gan ferched. Mae gwahaniaeth mawr yma, ac mae angen inni annog mwy o fenywod i fanteisio ar gyfleoedd tendro.

Yn hwyr y llynedd, cynhaliodd Uchelgais Gogledd Cymru ddigwyddiad Ymgysylltu â'r Farchnad Gynnar, gan gynnig cyfle i'r holl randdeiliaid ac, yn arbennig SMEs, glywed mwy am ein gwaith. Edrychodd rhan o'r digwyddiad hwn ar sut i gydweithio gyda'r Gadwyn Gyflenwi i gynnig mwy o gyfleoedd i fenywod yng Nghymru.

Ar wahân i'r cyfleoedd tendro, mae angen mwy o fenywod yn y diwydiant Caffael. Pan ddechreuais, roeddwn yn un o'r ychydig fenywod yn y maes, fe weithiais yn galed i gael fy mharchu a gwneud yn siŵr fy mod wedi dysgu popeth i fy mod ar yr un lefel ag eraill.

 

Beth yw Caffael?:

Pan fydd pobl yn gofyn i mi beth yw fy swydd, mae rhai'n dweud: "mae hynny'n swnio'n drawiadol", dywed eraill, "mae hynny’n swnio’n ddiflas".

 

Ond mae hynny mor anghywir. Mae pob diwrnod yn wahanol. Rwyf wedi dysgu gymaint o sgiliau o’r swydd yma, fel rheoli newid, trafod, rheoli perthynas, cydweithio ynghyd â chyfraith contract, gwybodaeth gyfreithiol, polisïau lleol a chanolog – mae'r rhain i gyd yn fy ngalluogi i wneud yr hyn rwy'n ei wneud, a'i wneud yn dda.

 

Fy rôl i yw'r Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru, gan arwain a rheoli'r holl weithgarwch Caffael. Rwyf yn rheoli contractau i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol. Mae popeth a wnawn, o gyfleoedd tendro, partneriaethau ac i fesurau gwerth cymdeithasol i Gaffael, yn golygu y gallwn sicrhau'r gwerth gorau i Ogledd Cymru.

 

Rwyf yn falch iawn o wybod, pan fo gweithgaredd Caffael yn gyfreithlon ac yn dryloyw, fod y canlyniadau'n drech na'r gwaith caled a'r heriau. Mae rhoi'r amser a'r ymdrech honno i bob rhan o'r broses gaffael a sicrhau cadwyn gyflenwi da, yn gwneud partneriaeth wych ac yn sicrhau allbynnau llwyddiannus i'r rhanbarth.

 

Sut y gallwch chi gymryd rhan?:

Rwyf yn awyddus i ysbrydoli menywod eraill i'r rôl yr wyf yn ei mwynhau gymaint. Ar Fawrth yr 8fed, mae'r CIPS yn cynnal gweminar gyda phanel o uwch fenywod ym maes Caffael. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar yr heriau a wynebir yn ystod dilyniant gyrfa, sut mae aelodau'r panel yn goresgyn rhagfarnau, ac awgrymiadau da i fenywod sydd ar y gweill yn y proffesiwn. Mae'r ddolen am fwy ar waelod y darn hwn.

 

Beth sydd nesaf i mi?

Ar hyn o bryd rwy'n ymgymryd â'm cwrs Ymarferydd Uwch CIPS, wedi'i gefnogi a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Nid yn unig mae hyn yn golygu y byddaf yn aros yn y maes Caffael Cymru am o leiaf 3 blynedd ar ôl ei gwblhau (sydd, yn fy marn i, yn wych) ond gallaf fod yn gymwysedig mcIPS ac ymuno â uwch weithwyr caffael benywaidd proffesiynol.  

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am fenyw mewn caffael, cynhelir gweminar am ddim ar Fawrth 8fed 2022, manylion isod: