Dweud eich dweud am ein cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth ar draws y rhanbarth
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn ceisio'ch barn ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol arfaethedig Gogledd Cymru a'i ddogfennau ategol, sy'n cynnwys cynllun monitro a gwerthuso, cynllun cyflawni ar gyfer cynlluniau awdurdodau lleol, ac arfarniad llesiant integredig.
Mae ein Cynllun drafft yn rhoi amlinelliad o'n polisïau a'n hymyraethau strategol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ar draws nifer o ddulliau trafnidiaeth, yn cynnwys rheilffyrdd, ffyrdd, bws, cerdded a beicio. Drwy ganolbwyntio ar integreiddio ac arloesi, ein nod yw darparu mwy o ddewisiadau teithio a gwell cysylltedd digidol i breswylwyr ac ymwelwyr, gan leihau ein heffaith amgylcheddol ar yr un pryd.
Gweld ac ymateb ar-lein
Gallwch weld neu lawrlwytho ein cynlluniau ac ymateb i'n hymgynghoriad drwy lenwi holiadur ar-lein, sydd ar gael yn ein hystafell arddangos rithwir yma:
Gweld ac ymateb trwy e-bost neu bost
- Gallwch lawrlwytho holiadur argraffadwy isod a'i ddychwelyd trwy e-bost neu'r post.
- E-bostiwch ymatebion i northwalesregionaltransportplan@arup.com
- Ysgrifennwch atom a phostio copïau argraffedig o'r holiadur at: FREEPOST UGC / ANW
Os hoffech siarad â ni am ein cynlluniau, gallwch hefyd ein ffonio ar: 01172 405 350.
Gellir darparu copïau papur neu amgen i chi ar gais drwy anfon e-bost atom neu adael neges i ni ar ein gwasanaeth ffôn (manylion uchod).
Amserlen
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 20 Ionawr 2025 am 12 wythnos.
Anfonwch eich ymateb atom erbyn 23:59pm ar 14 Ebrill 2025.
Byddwn yn ystyried yr holl adborth a gawn yn ofalus, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru a chwblhau ein cynlluniau. Ein nod yw cyhoeddi a mabwysiadu ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn Haf 2025.