Pwrpas

Mae'r Bwrdd Cyflawni Busnes yn darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad annibynnol i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae'n gweithio ar y cyd â'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyflawni'r Cynllun Twf.

Mae'r Bwrdd Cyflawni Busnes yn rhannu'r un nodau â'r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi'r rhanbarth i gyflawni y nodau hyn.

Aelodaeth

Mae'r Bwrdd Cyflawni Busnes yn gweithredu ar sail wirfoddol, gyda'r aelodaeth yn cynrychioli'r holl sectorau perthnasol i'r Cynllun Twf ynghyd ag ardal ddaearyddol y Gogledd.

Penodir y Cadeirydd gan y Bwrdd Cyflanwi Busnes ac mae'n gynghorydd i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

  • Askar Sheibani Cadeirydd, Bwrdd Cyflawni Busnes / Prif Weithredwr, Comtek Network Systems (UK) Ltd.
  • Mike Crouch Cyfarwyddwr, FibreSpeed
  • Liam Evans-Ford Cyfarwyddwr Gweithredol, Theatr Clwyd
  • Yr Athro Graham Jackson Athro Diwydiant a Menter, Prifysgol Wrecsam
  • Huw Jones Cadeirydd, Jones Bros. Civil Engineering UK
  • Yr Athro John Reynolds Rheolwr Gyfarwyddwr, Reynolds Geo-Solutions Ltd.
  • Tracey Sheehan Cyfarwyddwr, Convergent Consultancy Ltd.
  • Oliver Thomas Prif Swyddog Masnachol, i4 Technology