Fel arfer darperir eich cysylltiad rhyngrwyd gan ddyfais yn eich cartref gan eich cwmni gwasanaeth rhyngrwyd (ISP - internet service provider).

Beth yw ISP?

Bydd prisiau band eang yn dibynnu ar y pecynnau a gynigir ar y farchnad gan amryw gwmnïau.

Mesurir cyflymder band eang mewn ‘megabits per second (Mbps)

Mae cysylltiadau rhyngrwyd cyflym wedi chwyldroi’r maes, gyda’r cyflymder yn hwyluso amrediad eang o weithgareddau arlein.

 

Mathau band eang

Uwchgyflym Superfast

30Mbps neu uwch

Tra-chyflym Ultrafast

100Mbps neu uwch

Gigabeit Gigabit

Band eang ffeibr, cyflymder hyd at 1000Mbps.

Gwasanaeth digon cyflym?

Gwasanaeth digon cyflym?

Ar ddiwedd diwrnod hir, bydd y rhan fwyaf ohonom yn eistedd, ymlacio ac efallai’n gwylio’r teledu. Ond os bydd eich partner yn gwylio Vlogger ar Youtube drws nesaf a phlentyn yn chwarae gêm yn ei ystafell wely, ydi eich sioe wedi arafu neu oedi? Gallw'n eich helpu ... cwblhewch y ffurflen i dderbyn copi o'r Canllaw Cysylltedd Digidol

Mathau band eang

Bydd yn werth cael rhyngrwyd gigabeit os byddwch yn defnyddio lled band (bandwidth) uwch yn rheolaidd. Bydd hefyd yn werth ystyried os byddwch yn rhannu eich wi-fi gyda llawer o ffrindiau neu aelodau’r teulu. Ond mae’n ddrud ac yn fwy cyflym na sydd ddefnyddwyr cyfartalog.

Ni fydd angen rhyngrwyd gigabeit os byddwch yn treulio llawer o amser yn gwneud pethau syml fel anfon a derbyn ebost, ffrydio fideo HD, fideo- gynadledda ar Zoom neu Skype, oherwydd nid ydynt angen lled band uwch.

Pethau sy’n gallu elwa wrth ddefnyddio rhyngrwyd gigabeit

  • Ffrydio fideo 4K
  • Cynnal ‘livestreams’
  • Llwytho ffeiliau mawr
  • Anfon ffeiliau mawr neu gopïo ffeiliau i’r cwmwl
  • Er mwyn hawlio prisiau cymdeithasol rhaid bod ar un o’r budd-daliadau hyn

    • Credyd Cynhwysol
    • Credyd Pensiwn
    • Lwfans Cyflogaeth & cymorth (ESA)
    • Lwfans Chwilio Gwaith Cymhorthdal Incwm

    Manylion pellach ar wefan OFCOM

  • Eisiau siarad â rhywun?

    Rydym yn deall eich bod weithiau eisiau siarad â rhywun am eich materion penodol a chael sicrwydd neu gyngor gan berson.

    Ffoniwch 07485923735 neu 01248 725700, byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.

    Gallwch hefyd e-bostio enquiries@connectivity.cymru.

Cyflwynir y prosiect hwn i chi mewn cydweithrediad â ...

Gweithredir y prosiect gan: