Ymunwch â Llywodraeth y DU ar gyfer Deddf Caffael 2023: Gweminar ar gyfer cyflenwyr a sefydliadau allanol eraill
Bydd Deddf Caffael 2023 yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025. Er mwyn cefnogi parodrwydd ar gyfer y weithdrefn newydd, mae Llywodraeth y DU yn cynnal dwy weminar ar gyfer cyflenwyr a sefydliadau allanol eraill. Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar y newidiadau allweddol, sut y bydd y llwyfan digidol canolog yn gweithio (gan gynnwys arddangosiad byw), a bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau.
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Ionawr 2025
Amser: 10:30am – 11:30am
Lleoliad: Ar-lein
Cofrestru: yma
Dyddiad: Dydd Gwener 24 Ionawr 2025
Amser: 11:00am – 12:00am
Lleoliad: Ar-lein
Dolen: yma
Diweddariad ar y Llwyfan Digidol Canolog
Am dros chwe wythnos, mae awdurdodau contractio a chyflenwyr wedi cymryd rhan mewn profion Beta Preifat Swyddfa’r Cabinet o’r gwasanaeth Canfod Tendr uwchraddedig.
Mae’r adborth cynnar wedi bod yn galonogol, gyda’r system yn perfformio yn ôl y disgwyl. Yn bwysig, mae’r cyfranogwyr hefyd wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr i feysydd lle gellid mireinio a gwella profiad y defnyddiwr ymhellach.
Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y profion Beta gysylltu â tppdigital@cabinetoffice.gov.uk
Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024
Mae drafft diwygiedig o'r rheoliadau bellach wedi'i osod gerbron y Senedd.
Yn amodol ar gytundeb y Senedd, bydd y rheoliadau drafft, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025, yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025.
Ceir rhagor o fanylion yn y datganiad ysgrifenedig.
Bydd fersiynau diwygiedig o'r canllawiau statudol a'r deunyddiau hyfforddi ar gael yn fuan.