Gofynion brandio a chyhoeddusrwydd

     

Cyflwyniad

Mae brandio a chyhoeddusrwydd yn allweddol i sicrhau bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei hyrwyddo a’i chydnabod yn effeithiol.

Mae’r gofynion brandio a chyhoeddusrwydd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi’u nodi yma:

Mae cydymffurfio â gofynion brandio a chyhoeddusrwydd yn amod o Cytundeb Ariannu Grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru.

Gofynion brandio Ffyniant Bro

Rhaid dilyn gofynion cyhoeddusrwydd a brandio llywodraeth y DU a Ffyniant Bro ar gyfer pob prosiect a ariennir gan lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae'r gofynion yn ymwneud â nifer o feysydd gan gynnwys defnyddio'r logo, maint a lleoliad; cynhyrchu placiau, deunyddiau print a digidol, a hefyd cyd-frandio. Eglurir hefyd y gofynion dwyieithrwydd ar gyfer Cymru a sut y dylid gweithredu hyn.

Gofynion brandio Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Pan gyhoeddir manylion am weithgareddau’r Gronfa ar wefannau, bydd angen cynnwys cyfeiriad clir a blaenllaw at y cyllid o’r Gronfa fel a ganlyn:

‘Mae’r prosiect hwn [yn cael ei gyllido/ei gyllido’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’

Yn ogystal, dylid cyfeirio a chydnabod pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sy'n ariannu'r prosiect trwy UKSPF.

Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa ar y cyfryngau cymdeithasol megis Twitter, dylid defnyddio’r hashnod (#) canlynol #UKSPF

Yn ogystal, dylid cyfeirio a chydnabod pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sy'n ariannu'r prosiect trwy UKSPF.

Mae’n rhaid i ddatganiadau i’r wasg gynnwys cyfeiriad clir a blaenllaw at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ym mhrif gorff y datganiad i’r wasg fel a ganlyn:

‘[Mae’r prosiect hwn/Enw’r prosiect] wedi cael £[RHOWCH Y SWM] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU’.

Yn ogystal, dylid cyfeirio a chydnabod pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sy'n ariannu'r prosiect trwy UKSPF.

Dylid defnyddio logo pob awdurdod lleol sy'n ariannu'r prosiect drwy UKSPF ym mhob deunydd cyfathrebu a dogfen gyhoeddus sy'n ymwneud â'r gweithgaredd a ariennir.

Dylai'r logos ymddangos fel 'partner ariannu' a dylent fod yn y safle lliw magenta, fel y dangosir yn y canllawiau 'UK Government & Levelling Up Branding'.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Cyngor Gwynedd yw corff arweiniol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru ar ran awdurdodau lleol y rhanbarth.