Mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru ar fin cynhyrchu cynllun sgiliau a chyflogaeth rhanbarthol tair blynedd i ddeall yn well yr heriau, y materion a’r cyfleoedd o ran sgiliau a chyflogaeth y mae cyflogwyr yn y rhanbarth yn eu hwynebu.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu newid enfawr yn y ffordd y mae pobl yn gweithio, y mathau o swyddi sydd ar gael ac yn bwysicach fyth, efallai’r sgiliau sydd eu hangen yn awr ar ddiwydiant i yrru eu busnesau ymlaen mewn byd ôl-bandemig. Rydym ni eisiau clywed gan sefydliadau am eu anghenion gweithio. 

• Mae'r arolwg ar gyfer cyflogwyr o bob maint a sector ar draws Gogledd Cymru.

• Mae'n gyfle i gyflogwyr leisio eu barn ar ddyfodol sgiliau, hyfforddiant a datblygu'r gweithlu.

• Wrth gwblhau’r arolwg, bydd cyflogwyr yn cymryd rhan yn ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau, y byddwn yn dechrau ei gyflawni ddiwedd y flwyddyn hon tan 2025.

• Pwrpas y cynllun hwnnw yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am y sgiliau sydd eu hangen yng Ngogledd Cymru a lle mae angen dyrannu eu cyllid er mwyn cyflawni'r gofynion sgiliau a nodwyd.

• Mae yna ffyrdd eraill y gall cyflogwr ymgysylltu â ni, gyda'r cynllun. Byddwn yn cynnal gweithdai rhwng nawr a Mehefin, cysylltwch gyda info@rspnorth.wales am fwy.

• Dim ond hyd at 10 munud y dylai'r arolwg ei gymryd i'w gwblhau ac mae ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

• Mae dolen i'r Arolwg yma: Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2022 Survey (surveymonkey.co.uk)