Mae 'Gweledigaeth Twf' Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth i becyn cefnogaeth gwerth £2.9 miliwn gael ei gyhoeddi.

Bydd y cyllid, gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, yn helpu i gyflawni cynllun Hwyluso Gweledigaeth y Gogledd sydd werth £5.8m. Gan ganolbwyntio ar drigolion presennol, cenedlaethau'r dyfodol, busnesau a buddsoddwyr, bydd gan gynllun hwyluso Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru rôl bwysig i'w chwarae wrth gyflawni prosiectau'r Cynllun Twf.

Bydd yn cefnogi'r Cynllun Twf wrth adeiladu economi gwydn; drwy gyfrannu at greu swyddi, gweithio tuag at economi carbon isel a sicrhau bod y rhanbarth yn denu buddsoddiad yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd yn cyfrannu at gyflawni gweledigaeth ehangach y Bwrdd Uchelgais ar gyfer lles economaidd y Gogledd, hefyd.

Bydd y cyllid yn galluogi i'r Swyddfa Rheoli Portffolio barhau â'r cynnydd da y maent wedi'i wneud wrth ddatblygu a chyflawni prosiectau'r Cynllun Twf, gan gyfrannu at gyflawni gweledigaeth lawer ehangach ar gyfer lles economaidd y rhanbarth.

Arweinir tîm y Bwrdd Uchelgais gan Alwen Williams, y Cyfarwyddwr Portffolio. Eglura:

quotation graphic

"Mae'r pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd cydweithio a phartneriaethau. Mae'r cyllid hwn wedi galluogi i'r rhanbarth recriwtio tîm rhanbarthol cryf ac arbenigol i yrru'r gwaith a fydd yn cyflawni'r weledigaeth i Ogledd Cymru fod yn rhanbarth bywiog, gwydn a chynaliadwy, gan gyflawni twf economaidd cynhwysol a chreu swyddi a chyfleoedd newydd, gwerth uchel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ynghyd â denu talent yn ôl i'r Gogledd."

"Bydd y gwaith yn cynnwys cyflawni twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy ynghyd â chreu swyddi a chyfleoedd newydd, gwerth uchel, ar gyfer ein pobl ifanc a denu talent yn ôl i'r Gogledd."

quotation graphic

Mae Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, wedi croesawu'r cyllid, gan ddweud:

quotation graphic

"Mae hwn yn newyddion da a bydd y gefnogaeth yn caniatáu i ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i ddatblygu'r Weledigaeth Twf. Mae'r cyllid yn hanfodol wrth i ni siapio'r tîm a fydd yn cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru."

Ychwanegodd: "Ar ran y Bwrdd Uchelgais, hoffwn ddiolch i WEFO a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus, ac edrychwn ymlaen at y siwrne sydd o'n blaenau wrth i ni gyd-weithio."

quotation graphic

Mae'r cynllun hefyd yn ategu’r gwaith sydd wedi'i wneud gan Dîm Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, a'r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a ariennir gan yr UE. Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, yn Llywodraeth Cymru:

quotation graphic

"Mae potensial i Gynllun Twf Gogledd Cymru drawsffurfio economi'r rhanbarth ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi gwaith y tîm ymhellach gyda chyllid o'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

Bydd gan y Cynllun Twf rôl allweddol i'w chwarae yn adferiad y rhanbarth wrth i ni ymdrin â heriau'r pandemig."

quotation graphic

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £1.1 biliwn. Daw cyfraniad o £240 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a daw'r gweddill gan Sefydliadau Addysgol a'r Sectorau Preifat a Chyhoeddus. Mae'n cael ei yrru gan Dîm Rheoli Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymr