Cyhoeddi prosiectau newydd ar gyfer cyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru wedi cefnogi cynnig i wahodd pum prosiect newydd i ymuno â phortffolio’r Cynllun Twf. Yn amodol ar gwrdd â meini prawf penodol, bydd pob prosiect nawr yn mynd ymlaen i ddatblygu eu hachos busnes amlinellol.
Mae’r prosiectau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y rownd ddiweddaraf yma wedi cael dyraniad arian cyfalaf y Cynllun Twf ar sail y bydd eu hachosion busnes yn cael eu cymeradwyo.

Y prosiectau yw:

  • Prosiect Antur Cyfrifol gan Zip World - £6.2m
  • Prosiect Stiwdios Cinmel gan Stage Fifty - £6.8m
  • Prosiect Hwb Hydrogen Caergybi gan Menter Môn - £3.8m
  • Prosiect Gwastraff i Danwydd Glannau Dyfrdwy gan The Circular Economy Ltd - £6.4m
  • Prosiect Porth Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - £4.79m

Bydd pob sefydliad yn cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth fydd yn amlinellu’r disgwyliadau sydd arnynt mewn perthynas â sicrhau’r arian.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru: “Rydym yn hynod falch o gefnogi’r argymhelliad hwn er mwyn galluogi’r pum prosiect cyffrous yma i symud ymlaen i’r cam nesaf o sicrhau arian o’r Cynllun Twf. Maen nhw i gyd  yn brosiectau trawsnewidiol sydd â'r potensial i gyfrannu i economi Gogledd Cymru trwy ddod a buddsoddiad ychwanegol a chyfleoedd gwaith mewn sectorau allweddol. Mae’r prosiectau hefyd yn adlewyrchu ein gweledigaeth ni i hybu ffyniant economaidd sy’n arloesol a chynaliadwy yn yr ardal a hynny trwy annog cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a phreifat."

Ychwanegodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio: “Mae penderfyniad heddiw yn gam sylweddol ymlaen wrth i ni ddyrannu arian o’r Cynllun Twf i’r prosiectau newydd blaengar yma. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phob sefydliad wrth iddynt ddatblygu eu hachosion busnes amlinellol ac rwy’n awyddus i weld yr effaith gadarnhaol ar ein cymunedau a’n heconomi.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: “Mae’n wych gweld prosiectau newydd gyda chymaint o botensial yn cyrraedd cam nesaf o ran denu cyllid. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £120m at Gynllun Twf Gogledd Cymru ac rwy’n falch iawn o weld yr arian hwn, ynghyd â chyfraniadau gan ein partneriaid, yn cael ei ddefnyddio i helpu i drawsnewid economi Gogledd Cymru. Bydd y cam yma yn darparu swyddi sy’n talu’n dda ar gyfer y dyfodol, gan ysgogi twf a ffyniant fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i lawer sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch o weld pum prosiect newydd yn dod yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru. Mae gan y prosiectau cyffrous hyn y potensial i fod yn drawsnewidiol i’r rhanbarth, gan roi hwb i gymunedau lleol trwy gyfrannu at gyflogaeth a sgiliau. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn datblygu gyda chefnogaeth y Cynllun Twf.”

Bydd y pum prosiect yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i ddatblygu achosion busnes amlinellol. Cam cyntaf mewn proses a allai weld y prosiectau hyn yn dod yn realiti yw cyhoeddiad heddiw. Mae gan bob prosiect 12 mis i gyflawni eu cynlluniau.