Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn lansio eu cynllun sgiliau mewn digwyddiad ar 27 Ionawr yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd y tîm yn rhannu'r canfyddiadau er mwyn helpu busnesau rhanbarthol.

Y mis hwn, bydd digwyddiad Grymuso Gogledd Cymru: Sgiliau ar gyfer y Dyfodol yn darparu ‘siop un stop’ i fusnesau ar recriwtio, ailhyfforddi ac uwchsgilio eu staff.

 

Bydd busnesau sy'n mynychu'r digwyddiad yn cael mwy o ddealltwriaeth am y cyfleoedd sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â thrafodaethau panel ac areithiau gan gyflogwyr a phrentisiaid a fydd yn rhannu mewnwelediadau o'u hyfforddiant nhw.

Bydd lansiad y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Ranbarthol, sy'n canolbwyntio ar gyflenwad, galw a chyflwyno hyfforddiant sgiliau ar draws Gogledd Cymru hefyd yn rhan o’r digwyddiad. Datblygwyd y Cynllun gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â busnesau a chyflogwyr ar draws y rhanbarth. Caiff y canfyddiadau eu rhannu â'r mynychwyr yn ystod y digwyddiad.

 

Dywed Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, David Roberts: "Bydd busnesau'n gallu gweld y nifer o gyfleoedd gwych sydd gennym yng Ngogledd Cymru."

"Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i fusnesau, yn enwedig gyda'r heriau o recriwtio talent newydd o fewn marchnad hynod gystadleuol. O ganlyniad, mae sefydliadau'n chwilio am ffyrdd newydd o recriwtio ac maent hefyd eisiau dysgu mwy ar ailhyfforddi ac uwchsgilio eu gweithlu presennol. Bydd Grymuso Gogledd Cymru: Sgiliau ar gyfer y Dyfodol yn rhoi'r mewnwelediadau hyn i fusnesau ac yn eu galluogi i drafod yn uniongyrchol â’r arbenigwyr.”

 

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyflogwyr a busnesau Gogledd Cymru yn deall pa gyfleoedd sydd ar gael i gefnogi eu staff a’u bod yn gwybod lle i fynd am gefnogaeth", meddai Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

"Mae’r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Ranbarthol yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol yr ydym yn awyddus i'w rhannu i helpu busnesau ar draws y rhanbarth. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Colegau, Prifysgolion ac arweinwyr diwydiant i adnabod arferion gorau wrth ddatblygu a dysgu staff. Bydd y digwyddiad yn fuddiol i fusnesau, ac rydym yn annog pob busnes - bach neu fawr i ymuno â ni yn y digwyddiad yn Llandudno."

 

Cynhelir y digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno rhwng 9:00 yb a 12:30 yp, ar 27 Ionawr 2023.

I gofrestru dilynwch y ddolen yma: Grymuso Gogledd Cymru: Sgiliau ar gyfer Tocynnau'r Dyfodol, Gwe 27 Ionawr 2023 am 09:00 | Eventbrite