Drwy'r Her Ariannu Hydrogen, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn awyddus i hyrwyddo economi hydrogen a phenodi sefydliad i ddatblygu hwb hydrogen yn y rhanbarth.

Bydd yr hwb yn cynhyrchu ac yn defnyddio hydrogen, gyda hyd at £11.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i hyrwyddo galw a chefnogi sefydliadau i symud o danwyddau ffosil i hydrogen.

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cyng. Llinos Medi, hefyd yn Aelod Arweiniol y Rhaglen Ynni Carbon Isel ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd, dywedodd:

quotation graphic

“Mae hydrogen yn rhan allweddol o’n hymdrechion wrth i ni drawsnewid i fod yn economi carbon isel. Mae hwn yn gyfle gwych i brosiect uchelgeisiol ar raddfa fawr dderbyn buddsoddiad sylweddol yn ogystal â chefnogaeth i ddarparu datblygiad fydd yn chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau lle Gogledd Cymru yn y sector twf allweddol hwn.

“Yn ogystal â chyd-fynd ag amcanion Llwybr Hydrogen Llywodraeth Cymru a Strategaeth Hydrogen a Strategaeth Diogelwch Ynni Llywodraeth y DU, bydd yr hwb newydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau sero net, a bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r rhanbarth.

quotation graphic

Alwen Williams yw Rheolwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru,  ychwanegodd:

quotation graphic

“Mae gan Gogledd Cymru glystyrau sylweddol o ddiwydiant, yn enwedig yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a chysylltiadau trawsffiniol agos, gyda mynediad i’r rhwydwaith traffyrdd, meysydd awyr rhyngwladol, a phorthladd Caergybi, gyda’i statws porthladd rhydd newydd.

“Rwyf am annog unrhyw sefydliad neu fusnes sydd gan y potensial i ddatblygu’r hwb i ystyried y cyfle hwn ac i weithio gyda ni i wireddu’r prosiect rhanbarthol a chenedlaethol hwn. Mae’n gyfle gwych i  hyrwyddo hydrogen fel tanwydd glân amgen i danwydd ffosil. Ein nod drwy’r prosiect yma yw galluogi ein diwydiannau a busnesau lleol i newid i hydrogen a hefyd chwarae eu rhan fel cwsmeriaid i’r hwb yn y dyfodol.”

quotation graphic

Rhaid i’r ymgeisydd ddangos achos busnes ar gyfer yr hwb hydrogen carbon isel yng Ngogledd Cymru. Erbyn 2030 dylai’r hwb fod yn weithredol ac yn cynhyrchu a dosbarthu hydrogen.

Mae cyfnod ymgeisio nawr ar agor. Mae’r broses yn agored i sefydliadau all ddylunio a rheoli’r prosiect ar ran Uchelgais Gogledd Cymru.

Cliciwch yma am fwy.