Bydd Cynllun Twf Gogledd Cymru yn creu hanes yr wythnos hon gyda lansio’r prosiect cyntaf dan y cynllun, sef cyfleusterau newydd Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) Prifysgol Bangor.

Mae technoleg yn y Ganolfan DSP yn rheoli'r ffordd y caiff signalau digidol eu trawsyrru, gan wella y ffordd mae signalau yn cael eu prosesu a'u derbyn, ac i fod yn fwy diogel ac yn fwy cost effeithiol.

Mae cyllid y Cynllun Twf o £3 miliwn drwy Uchelgais Gogledd Cymru, wedi galluogi’r Ganolfan DSP i gaffael offer newydd i wneud ymchwil flaengar yn y maes cyfathrebu digidol. Bydd y cyllid yn datblygu atebion i gefnogi gofynion digidol y dyfodol, gan fod o fudd i fusnesau a thrigolion gyda galluoedd cyfathrebu gwell megis 5G a 6G. Gellir defnyddio'r offer diweddaraf hefyd i hybu datblygiad prototeipiau newydd; mae enghreifftiau'n cynnwys cymwysiadau fel gwell diogelwch (cysylltiad amgryptio/dad-amgryptio i wella diogelwch digidol) a synhwyro amgylcheddol (gan nodi newid yn yr amgylchedd allanol trwy drawsyrru fideo). Bydd hyn yn rhoi defnydd mwy cost effeithiol, mwy diogel a mwy effeithlon o'u cymwysiadau i fusnesau a chymunedau sy'n defnyddio'r dechnoleg DSP.

Caiff y digwyddiad lansio ei nodi gydag ymweliad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies MP. .

 

Dywedodd y Cyng. Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd pwynt ble byddwn ni’n gweld  prosiect cyntaf y Cynllun Twf yn cael ei wireddu. Mae’n addas ei fod yn un o’r sectorau sy’n tyfu cyflymaf, wrth i ni edrych ar hyrwyddo ymchwil ac arloesi yn y maes, yn ogystal â gwella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth. Bydd y prosiect yn allweddol hefyd wrth i ni fynd i’r afael â’r bwlch digidol yng Ngogledd Cymru, yn arbennig felly ardaloedd gwledig sydd angen gwell cysylltedd.

Gyda’r datblygiadau technolegol byd-eang pwysig yma, mae’r Ganolfan DSP wir yn rhoi Gogledd Cymru ar y map yn y sector cyffrous yma. Mae’r tîm eisoes yn gweithio gyda busnesau rhyngwladol ac enwau mawr yn y diwydiant gan gynnwys Ciena, Orange, Fujitsu a BT. Ond, maen nhw hefyd yn gweithio gyda busnesau llai yn y rhanbarth, gan ddarparu mynediad at gyfarpar sy’n helpu i ddatblygu sgiliau lleol.

Wrth i'r galw am wasanaethau digidol barhau i dyfu, nod ymchwilwyr y Ganolfan yw paratoi  systemau heddiw ar gyfer y dyfodol trwy edrych ar sut mae gwybodaeth a data yn y byd go iawn yn cael eu prosesu yn y byd digidol. Y Ganolfan ym Mangor yw’r unig safle ymchwil yn y DU sy’n mynd i’r afael â DSP ar gyfer 5G a thu hwnt. Mae’n gweithio ochr yn ochr â 30 o bartneriaid diwydiant i gyflawni prosiectau sy’n cefnogi cadwyn cyflenwi gweithgynhyrchu a darparwyr gwasanaeth.

 

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Iwan Davies:

Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth trwy’r Cynllun Twf, ac yn falch o allu arddangos ein cyfleusterau newydd a’r gwaith sy’n cael ei wneud yma i’n hymwelwyr yn y digwyddiad yr wythnos hon.

Fel Prifysgol rydym yn cael ein harwain gan ymchwil, ac mae mentrau fel y Ganolfan DSP yn enghraifft dda o sut y gall hyn gael effaith ar fywyd dydd i dydd tra'n darparu addysg drawsnewidiol i'n myfyrwyr. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y gallwn gael ar ein cymuned leol yma ym Mangor, economi ehangach Gogledd Cymru a ledled y byd trwy ddatblygu technolegau cynaliadwy yn y maes hwn.

 

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda lansio’r prosiect cyntaf i gael ei ariannu drwy’r cynllun. Gyda’r offer newydd, bydd Canolfan DSP Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil arloesol i dechnoleg ddigidol. Mae disgwyl i’r galw am wasanaethau digidol barhau i dyfu a bydd y ganolfan mewn sefyllfa gref i arwain yn y maes hwn o ran ymchwil ar ddiogelu’r dechnoleg at y dyfodol.

Rydym yn gweithio gyda’r ganolfan hefyd i ddod â band eang cyflymach i rannau gwledig o Ynys Môn, a rwy’n falch o weld y datblygiad cyffrous hwn. Gyda’n cefnogaeth ni, mae tîm y cynllun twf yn edrych ar nifer o brosiectau cyffrous eraill i’r dyfodol.

 

Ychwanegodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies AS:

Rwy’n falch iawn o weld Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gwneud cynnydd gwych. Bydd yn dod â buddsoddiad a swyddi sylweddol ac yn help i drawsnewid economi Gogledd Cymru. Ochr yn ochr â’r £120m sydd wedi’i ymrwymo i Gynllun Twf Gogledd Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi cynlluniau twf ar gyfer pob rhan o Gymru gyda channoedd o filiynau yn fwy o arian. Gan weithio law yn llaw â’n partneriaid, bydd y cynlluniau hyn yn rhyddhau potensial llawn ein cymunedau.

Wrth i Gynllun Twf Gogledd Cymru nodi’r garreg filltir hon, rwy’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau’n dwyn ffrwyth ar draws y rhanbarth a ledled Cymru yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.