Bydd golwg ar iechyd meddwl a lles i staff ac aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais) wrth iddynt dynnu eu hesgidiau cerdded er budd elusen iechyd meddwl, Mind Cymru.

Bydd y tîm yn cerdded holl lwybr arfordir Gogledd Cymru cyn diwedd mis Hydref – cyfanswm o 383 milltir. Byddent yn codi arian sydd fawr angen ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl lleol yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff a phartneriaid o bwysigrwydd hunanofal, ar ôl 18 mis heriol.

Gyda gwasanaethau iechyd meddwl yn dod o dan bwysau cynyddol, dewiswyd Mind Cymru gan y Bwrdd Uchelgais  fel ei elusen enwebedig ar gyfer y  flwyddyn nesaf.  Bydd elw o'u holl weithgareddau codi arian yn mynd i gefnogi'r rhai sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.

Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais:

"Mae lles meddyliol yn achos mor bwysig i'w gefnogi. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn delio gyda problemau iechyd meddwl yn ystod ein bywydau, naill ai'n uniongyrchol, neu drwy gefnogi ffrindiau, teulu neu gydweithwyr pan fydd ei angen arnynt. Rydym yn falch iawn i gymryd rhan yn yr her hon, y cyntaf o nifer i godi arian dros y flwyddyn nesaf.

Rydym yn gobeithio cwblhau'r her erbyn diwedd mis Hydref, a rwyf eisoes wedi bod allan, ynghyd â llawer o'm cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf, yn gwerthfawrogi'r harddwch sydd gennym yma ar hyd llwybr yr arfordir.

Yn ogystal â chodi arian i Mind, mae'r her hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gerdded yn ddyddiol a phrofi manteision cymryd amser allan i wneud ymarfer corff."

Jenny Murphy yw Prif Weithredwr Mind Gogledd Ddwyrain Cymru - partner Y Bwrdd Uchelgais yn y digwyddiad cerdded arfordirol. Dywedodd hi:

"Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Bwrdd Uchelgais am ddewis Mind Gogledd Cymru fel eu helusen enwebedig ac am drefnu'r daith gerdded wych hon. Edrychwn ymlaen at ymuno â'r tîm ar hyd y ffordd ac i gymryd rhai o'n golygfeydd gwych.

Nid yw'n gyfrinach bod y pandemig wedi cynyddu'r pwysau ar wasanaethau fel Mind - rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n estyn allan atom am gymorth. Bydd unrhyw arian a godir o ganlyniad i ymdrechion y tîm yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n defnyddwyr gwasanaeth a bydd yn golygu y gall mwy o bobl elwa o'n cefnogaeth."

 

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn gyfrifol am gyflawni'r Cynllun Twf a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar draws y rhanbarth. Nod y Cynllun yw hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy yng ngogledd Cymru gyda buddsoddiad mewn sectorau allweddol gan gynnwys ynni carbon isel; digidol; tir ac eiddo; bwyd-amaeth a thwristiaeth; a gweithgynhyrchu gwerth uchel.

 

Mae Mind Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio gyda Sir y Fflint a Wrecsam yn bennaf i helpu pobl i wella o broblemau iechyd meddwl ac aros yn emosiynol iach. Bydd yr arian a godir drwy daith gerdded Y Bwrdd Uchelgais ym mis Hydref o fudd i wasanaethau ar draws gogledd Cymru gan gynnwys Mind Dyffryn Clwyd,  Mind Conwy a Mind Gwynedd & Ynys Môn.

 

Cyn mynd i lwybr yr arfordir dywedodd Alwen: "Mae croeso i bawb ymuno â ni a hoffem annog ein partneriaid ar draws y rhanbarth i gerdded rhan o'r llwybr. 

I'r rhai sydd am gyfrannu at achos mor dda, gallant wneud hynny drwy ymweld â https://www.justgiving.com/crowdfunding/northwaleseab. Hoffwn apelio ar bawb i roi'r hyn y gallant drwy nawdd neu eiriau syml o anogaeth yn unig."

 

Rhai o'r tîm ar y daith
Rhai o'r tîm ar y daith