Bydd pedwar cwmni yn gweithio gyda Fferm Llysfasi Coleg Cambria a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i helpu ffermydd yr ardal leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Roedd y sector ffermio yn cyfrif am 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2016, o ganlyniad, mae amaethyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r ffigwr hwn. Gan weithio fel rhan o gynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio Ymchwil Busnes System (WBRID) Llywodraeth Cymru, bydd y sefydliadau'n derbyn hyd at £25,000 yr un i ddarparu atebion arloesol i gyflawni'r nod hwn.

Mae'r sector yn allweddol i economi Gogledd Cymru, gan gyflogi 7% o'r gweithlu rhanbarthol a chyfrannu dros £370 miliwn i'r economi bob blwyddyn. Gan gydnabod pwysigrwydd y sector a'r angen i leihau allyriadau, mae Dewi Jones, Rheolwr Fferm Coleg Cambria Llysfasi, yn gyffrous i fod yn rhan o'r cynllun hwn. Dywedodd Dewi:

"Rydym bellach yn cydweithio â'r sefydliadau arloesol a ddewiswyd ac yn ceisio nodi ffyrdd o leihau nwyon tŷ gwydr a gweithredu prosesau cynaliadwy a fydd yn cyfrannu at ddatblygu'r prosiect Fferm Net Sero yn y dyfodol."

Mae'r Fferm Sero Net yn un o brosiectau'r Cynllun Twf o fewn Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth y Bwrdd Uchelgais. Cyfarwyddwr Portffolio Alwen Williams sy'n arwain y tîm sy'n ymwneud â'r Rhaglen, meddai:

 "Ar ôl tyfu i fyny ar fferm, rwy'n gwybod pa mor annatod yw amaethyddiaeth, yn ogystal â'r busnesau a'r diwydiannau sy'n seiliedig arni, i economi Gogledd Cymru. Mae brys cynyddol hefyd i ymateb i newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau.

 Bydd y pedwar prosiect arloesol hyn yn profi cysyniadau, technolegau a ffyrdd newydd o weithio sy'n rhoi Gogledd Cymru, ei thrigolion a'i chymunedau wrth wraidd y newid hwn.

Mae Fferm Sero Net Llysfasi yn un o'n prosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru, a fydd, pan gaiff ei chyflwyno, yn cefnogi 400 o fusnesau yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio ac arallgyfeirio. Mae hwn yn gam cyntaf cyffrous ar y daith i ffermio Net Sero".

Un o cwmnïau llwyddiannus cynllun WBRID yw canolfan gwyddoniaeth ac arloesi busnes Ynys Môn, M-SParc. Mae tri busnes o'r ganolfan yn cydweithio â Choleg Cambria Llysfasi i archwilio'r potensial i dronau nodi a thrin materion ar y fferm fel twf mewn perygl. Gallai'r prosiect leihau allyriadau o gerbydau diesel a lleihau nifer y cemegau sydd eu hangen.

Bydd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sparc yn arwain ar ddatblygiad y prosiect hwn meddai:

 "Ein huchelgais ar gyfer y prosiect yw bod yn gatalydd ar gyfer newid ymddygiad hirdymor. Drwy gefnogi'r amgylchedd, lleihau risgiau iechyd a diogelwch a dangos celfyddyd y posibl, rydym yn codi'r bar mewn technoleg ac arloesedd mewn amaethyddiaeth yma o Ogledd Cymru wledig".

 Cwmni arall o Ogledd Cymru a fydd yn cyflawni'r gwaith ar gyfer y Fferm Net Sero yw Fre-Energy Limited, Wrecsam. Bydd eu gwaith yn profi'r potensial ar gyfer allbynnau o systemau Treulio Anaerobig ar y fferm, i gefnogi dulliau ffermio adfywio ac allyriadau isel sy'n gwella iechyd a ffrwythlondeb y pridd.

 Mae Denise Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Fre-Energy Limted, y tu ôl i ddatblygiadau’r prosiect, meddai:

"Mae datblygu her Fferm Sero Net yn cyd-fynd â'r athroniaeth Fre-energy a'i photensial i sicrhau economi ddi-garbon, gadarn a cynaliadwy.

 Gall cyfleusterau masnachol-diwydiannol gwledig elwa o ynni gwyrdd a gynhyrchir; megis creu swyddi, cryfhau'r economi leol a'r gymuned. Mae'n newid posibl ac yn gatalydd ar gyfer gwella effeithlonrwydd ac effaith gynhyrchiol ffermio".

 Dau o'r cwmnïau llwyddiannus eraill sy'n rhan o'r cynllun hwn yw Promar International Ltd, Swydd Gaer a The BioFactory, Swydd Rydychen.

 I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ewch www.northwaleseab.co.uk neu dilynwch eu cyfryngau cymdeithasol @buegogleddcymru a @northwaleseab.