Tynnwyd sylw at ddau o brif brosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru (11.01.24), yn ystod ymweliad gan Fay Jones AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gymru, â'r rhanbarth.

Yn gyntaf, ymwelodd y Gweinidog â safle Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, sydd â dyraniad amodol o £7m o Arian y Cynllun Twf drwy Uchelgais Gogledd Cymru. Hefyd, mae disgwyl i'r safle elwa o fuddsoddiad o £3m o Gyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, fel rhan o ddyraniad amodol Cyngor Sir Ddinbych o £20m ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd.

Saif yr adeilad rhestredig Fictoraidd mewn safle 52-acer, ac ar ôl iddo gael ei drawsnewid wedi i waith cadwraeth ac adfer gael ei wneud arno, ynghyd â dymchwel rhan ohono, bydd yn cael ei ddefnyddio fel eiddo datblygiad preswyl a chyflogaeth. Mae tua 100 o brentisiaid a hyfforddeion peirianneg sifil eisoes wedi cymhwyso dros y pedair blynedd diwethaf. Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych eisoes yn gweithio gyda'r prif ariannwr, Jones Bros Civil Engineering UK, ar y prosiect.

Yr ail leoliad Cynllun Twf a ymwelwyd ag ef oedd Canolfan Dechnoleg OpTIC yn Llanelwy, sy'n ffurfio rhan o brosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Prifysgol Wrecsam.  Bydd OpTIC yn elwa o estyniad a gwelliannau i'w gyfleusterau - gan ddiogelu ei statws fel hwb opteg ac optoelectroneg sydd gyda'r gorau yn y byd. Ar wahân, fel rhan o'r prosiect, bydd Campws Plas Coch, Prifysgol Wrecsam yn elwa o ganolfan arbenigol newydd ar gyfer gwaith ymchwil, cydweithredu mewn busnes a datblygu sgiliau. Bydd cyllid y Cynllun Twf, drwy Uchelgais Gogledd Cymru, yn darparu £11.55m o gyfanswm gwerth y prosiect.

Roedd ymweliad y Gweinidog hefyd yn gyfle iddi ennyn dealltwriaeth o brosiectau ehangach y Cynllun Twf sy'n cael eu cyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru - sy'n anelu at ddenu buddsoddiad a chreu swyddi cynaliadwy er budd cymunedau ar draws y rhanbarth.

quotation graphic

Meddai'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

"Mae'r prosiectau yma yn enghreifftiau euraidd o'r gwaith yr ydym yn ei wneud yma yng Ngogledd Cymru fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar draws y rhanbarth, nawr ac yn y dyfodol. Drwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, rydym yn creu economi fywiog, cynaliadwy, gwydn a ffyniannus."

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Fay Jones, AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gymru:

"Roeddwn wrth fy modd yn gweld y prosiectau cyffrous yma fy hun a chael clywed am y cynlluniau ar gyfer y safle yn Ninbych a chanolfan OpTIC yn Llanelwy. Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru, ynghyd â'n partneriaid, gyda'r nod o greu swyddi a thyfu economi'r rhanbarth.

"Mae gan y ddau brosiect uchelgeisiol yma'r potensial i gyflawni ein nod gyffredin o ledaenu ffyniant a chyfle i bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru."

quotation graphic