Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi croesawu dau aelod newydd o staff i ymuno â’r Tîm Ynni Carbon Isel . Y gobaith yw y bydd y ddwy rôl yn help i  roi hwb i’r sector yng Ngogledd Cymru. Symudodd Danial Ellis Evans a Rhianne Massin i’r ardal o Gaerdydd yn ddiweddar, gan ddechrau ar eu swyddi fel Swyddogion Prosiect Ynni.

 

Bydd y ddau yn cefnogi ac yn darparu cynlluniau Ynni Lleol a’r strategaeth ynni rhanbarthol drwy  fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan  gynorthwyo i hyrwyddo arloesedd a sicrhau newid yn y diwydiant yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Rhianne Massin a fu’n byw tan yn ddiwedd yng Nghaerdydd , ond sydd yn wreiddiol o Gaerwysg: “Mae'r swydd hon wedi rhoi'r cyfle i mi ddechrau fy ngyrfa yn y sector ynni adnewyddol a chynaliadwyedd. Mae’n gyfle gwych ac mae’r gwaith y mae Uchelgais Gogledd Cymru yn ei wneud yn ysbrydoledig. Dwi’n edrych ymlaen at ddechrau arni go iawn.”

Mae Rhianne yn teimlo’n hynod gartrefol ers iddi hi a’i phartner benderfynu symud i Ogledd Cymru: “Roedd gen i rai amheuon ynglŷn â symud i ardal gymharol wledig, gan fy mod i wastad wedi byw yn y ddinas, ond rydw i wir yn mwynhau fy amser yma. Mae cymaint i’w wneud, a chymaint o lefydd i’w gweld.

 

“Mae yna ymdeimlad o gymuned gref yma, sy’n wahanol i’r ddinas, mae hyn yn sicr yn fy nghyffroi. Rydw i hefyd yn dysgu Cymraeg, a dwi’n ymfalchïo’n fawr yn fy ngwreiddiau Cymreig gan fod gen i deulu o’r ardal.”

Roedd Danial Ellis Evans wedi byw yng Nghaerdydd ers dwy flynedd, ond yn wreiddiol o Langefni, Ynys Môn. Penderfynodd symud yn ôl i’r ardal yn dilyn gweld y cyfleoedd oedd gan Uchelgais Gogledd Cymru i’w cynnig, ac mae bellach yn byw yng Nghyffordd Llandudno, dywedodd: “Dwi’n teimlo cysur pan dwi yma yn y gogledd, dyma fy nghartref. Mae’r ardal hon yn gyfarwydd i mi ond wrth symud i Landudno yn hytrach nag yn ôl i Fôn, dwi hefyd yn profi antur newydd.

 

“Mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru yn datblygu ar raddfa gyflym. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y sector. Mae tîm gwych gyda ni yma yn Uchelgais Gogledd Cymru, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at  ddechrau gweithio ar amryw o brosiectau  er mwyn gwneud gwahaniaeth".

 

“Mae gennym ni botensial i fod yn arwain yn y sector yn fyd-eang, felly mae’n gyfnod cyffrous i fod yn byw ac yn gweithio yma, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi penderfynu dychwelyd i’r gogledd.”

Roedd Danial a Rhianne hefyd yn awyddus i bwysleisio rhai o'r cyfleoedd eraill y mae Gogledd Cymru yn eu cynnig.

“Fel person lleol, dwi wedi gallu profi’r harddwch naturiol anhygoel sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig,” medd Danial. Mae yna hefyd amryw o gyfleoedd i bobl ifanc fel ni sy’n chwilio am wahanol lwybrau gyrfa yn yr ardal. Mae yna ymdeimlad o falchder , ac mae modd i chi adeiladu cysylltiadau o wahanol sectorau eang yng Ngogledd Cymru.”

Ychwanegodd Rhianne: “Mae yna ddiwylliant a chymuned fywiog gydag amrywiaeth eang o wahanol swyddi a chyfleoedd ar gael yn y rhanbarth.” Cytunodd y ddau fod Gogledd Cymru yn lleoliad delfrydol i fynd ar drywydd gwahanol gyfleoedd busnes, gydag economi sy’n tyfu a chymuned gefnogol.

Ychwanegodd Danial: “Mae yna lawer o arloesi yn digwydd yma, a dwi’n teimlo’n  gyffrous i fod yn rhan o’r datblygiadau ac i fod yn rhan o hynny.

---

Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi ymuno ag M-Sparc ar eu hymgyrch Dewch yn ôl i ddenu pobl i ddychwelyd neu symud i Ogledd Cymru. Am fwy o wybodaeth: Dewch yn ôl // Rhowch yn ôl - M-SParc