Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio fel partneriaeth i gyflawni ein huchelgais - gan nodi a darparu cyfleoedd i ddatblygu ein heconomi. Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy.
Ein Huchelgais
Bod yn hyderus a chydlynol, yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y rhanbarth.
Rydym am weld y rhanbarth yn datblygu mewn ffordd gynaliadwy, gyda chyfleoedd i bobl ennill sgiliau newydd ar gyfer y dyfodol a chael gyrfaoedd gwerth chweil. Rydym am weld busnesau'n tyfu a chymunedau'n ffynnu.
Byddwn yn gwneud hyn tra'n hyrwyddo ein iaith, ein diwylliant a'n treftadaeth ac yn unol â'r nodau llesiant i Gymru.
Y Bartneriaeth
Chwe awdurdod lleol: awdurdodau lleol Gogledd Cymru sy'n cynnwys cynghorau Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.
Dwy brifysgol: Prifysgol Bangor wedi'i lleoli yng Ngogledd-Orllewin Cymru a Phrifysgol Wrecsam sydd â champysau yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.
Dau goleg addysg bellach: Grŵp Llandrillo Menai sydd â safleoedd ar draws Gogledd-Orllewin Cymru a Choleg Cambria sydd â safleoedd yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.