Prosiect:

Yr Ychydig % Olaf

Trosolwg:

Er bod gweddill y DU wedi elwa o well cysylltedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhannau o Ogledd Cymru yn dal i fod heb wasanaeth band eang cyson, sydd wedi effeithio ar gymunedau, busnesau a'r economi ehangach.

Bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r y 'bwlch digidol' (y gwahaniaeth mewn ansawdd cysylltedd rhwng trefi a chymunedau gwledig) ac yn ystyried sut all cysylltedd gyrraedd llefydd sydd heb fand eang cyflym iawn (30 megabits yr eiliad). Y nod fydd darparu cysylltedd cynaliadwy a fforddiadwy er budd cymunedau a busnesau Gogledd Cymru.

Prif Noddwr:

Amcan

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £10 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 135 o swyddi newydd  i'r  rhanbarth

Gwella Cysylltedd

Ymestyn band eang cyflym i'r lleyfydd yn y rhanbarth sydd heb fynediad ar hyn o bryd

Targedau Buddsoddi

£4m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£0m

Sector Breifat

£4m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Elen Edwards Pennaeth Adran – Datblygiad Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Stuart Whitfield Rheolwr Rhaglen Ddigidol
  • Kirrie Roberts Rheolwr Prosiect Cysylltedd Digidol