Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno rhaglen o gymorth i gymunedau wella eu band eang – gyda sesiynau galw heibio am ddim ac anffurfiol mewn lleoliadau ar draws y rhanbarth.

Mae’r prosiect Cysylltedd Digidol Gwledig yn cael ei arwain gan Uchelgais Gogledd Cymru a’i ddarparu gan Annog Cyf, cangen fasnachu Menter Môn, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â staff sydd wedi’u lleoli o amgylch Gogledd Cymru.

Bydd cyfres o sesiynau llawn gwybodaeth i helpu pobl gyda’u hymholiadau rhyngrwyd yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

 

  • Llyfrgell Rhuthun, Sir Ddinbych: Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 10yb-1yp
  • Canolfan Henblas, Bala, Gwynedd: Dydd Llun 15 Gorffennaf 10yb-1yp
  • Llyfrgell Dinbych , Sir Ddinbych: Dydd Llun 15 Gorffennaf 10yb-1yp
  • Llyfrgell Corwen, Sir Ddinbych: Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 10yb-1yp
  • Y Ganolfan, Llwyngwril, Gwynedd: Dydd Mercher 24 Gorffennaf 10yb-12:30yp
  • Neuadd Bentref Helygain, Sir y Fflint: Dydd Gwener 26 Gorffennaf - 4 - 6yp
  • Hyb Cymunedol Tafarn Y Iorwerth, Bryngwran, Ynys Môn: Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2-4yp
  • Llyfrgell y Waun, Wrecsam: Dydd Llun 29 Gorffennaf 3.30-5.30yp
  • Neuadd Bentref Cilcain, Sir y Fflint: Dydd Mawrth 30 Gorffennaf 4-6yp
  • Neuadd Bentref Gwernymynydd, Sir y Fflint: Dydd Mercher 31 Gorffennaf 4-6yp
  • Llyfrgell Llangollen, Sir Ddinbych: Dydd Iau 1 Awst 10yb-1yp
  • Sioe Môn, Ynys Môn: Dydd Mawrth 13eg - Dydd Mercher 14eg Awst

quotation graphic

Dywedodd Kiki Rees-Stavros, Rheolwr Prosiect:

“Mae’r sesiynau galw heibio mewn mannau y gall y cyhoedd ddod i ddarganfod sut y gallant wella eu cysylltiad rhyngrwyd. P'un a yw'n atebion datrys problemau syml, neu ynglŷn â chael rhywfaint o seilwaith newydd yn ei le. Nid oes angen i bobl boeni am y manylion, dyna yw pwrpas ein staff - i geisio ei wneud yn syml, trwy esbonio mewn termau bob dydd. Rydyn ni yno i helpu pobl i gael y cysylltiad gwell hwnnw i wneud eu bywydau’n haws.”

quotation graphic

Ceir rhagor o fanylion am y Prosiect Cysylltedd Digidol Gwledig yma.