Mae gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, a elwir yn Uchelgais Gogledd Cymru, gyfrifoldeb i wella a hyrwyddo lles economaidd y rhanbarth.
Fel rhan o’r cylch gwaith hwn, bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam i gyflawni Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam – a fydd yn gweld buddsoddiad o hyd at £160m yn yr ardaloedd hynny dros 10 mlynedd.
Fel ymrwymiad ar y cyd gan lywodraethau’r DU a Chymru, nod y Parth Buddsoddi yw gwella a thyfu clwstwr gweithgynhyrchu uwch o bwys byd-eang.
Bydd yn rhyddhau potensial pellach i Sir y Fflint a Wrecsam, sydd eisoes yn gartref i weithrediadau gweithgynhyrchu gwerth uchel a safleoedd diwydiannol strategol, drwy gynnig cyfuniad unigryw o gymorth, seilwaith a chymhellion wedi’u targedu sydd wedi’u dylunio i ddenu a chynnal busnesau. Bydd y buddion yn fuddion pellgyrhaeddol, yn ymestyn ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae’r cyfle sylweddol ar gyfer twf eisoes wedi’i gydnabod, gyda chewri fel Airbus a JCB yn mynegi cefnogaeth.
-
Croesewir cadarnhad ar Barth Buddsoddi Sir y Fflint a WrecsamMwy
-
Manteisio ar Botensial Parth Buddsoddi Sir y Fflint a WrecsamMwy
-
Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a Wrecsam yn Fagned i FuddsoddwyrMwy
-
Galwad Agored ar gyfer Prosiectau Gweithgynhyrchu Uwch a Safleoedd ar gyfer Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a WrecsamMwy
-
Parth Buddsoddi newydd Wrecsam a Sir y Fflint yn cael ei groesawu gan Uchelgais Gogledd CymruMwy